Llwybr 4 Project Search/ASDA Queensferry (Interniaeth â Chymorth)

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r rhaglen hon yn bartneriaeth rhwng Project Search, ASDA Queensferry a Choleg Cambria i gefnogi myfyrwyr wrth iddynt drosglwyddo i'r gweithle lle byddant yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer cyflogaeth.

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen interniaeth blwyddyn o hyd, sy'n cefnogi dysgwyr i ennill sgiliau cyflogaeth gwerthfawr o fewn lleoliad manwerthu yn ASDA, Queensferry. Mae’r rhaglen hon bum niwrnod yr wythnos yn y gweithle, yn gweithio yn y siop, yn profi gwahanol agweddau ar yr adrannau manwerthu a fydd yn eu helpu wrth chwilio am waith neu wirfoddoli yn y dyfodol. Mae myfyrwyr yn cael sesiynau yn yr ystafell ddosbarth trwy gydol yr wythnos. Mae'r rhain wedi'u lleoli yn ASDA i ddysgu sgiliau a gwybodaeth gan sicrhau bod dysgwyr yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i lwyddo.

Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddysgu, gyda chyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn yn y gweithle.

Nod yr interniaethau â chymorth yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth â thâl trwy:

*Eu cefnogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i gyflogwyr.
*Eu galluogi i ddangos eu gwerth yn y gweithle.
*Datblygu hyder yn eu gallu eu hunain i berfformio'n llwyddiannus yn y gwaith.

Mae cynllunio ar sail nod yn allweddol i bob dysgwr.

Bydd yr holl weithgareddau ar y rhaglen hon yn cael eu cynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth berthnasol i ddysgwyr ar gyfer eu taith unigol.

Mae Mentor Cyflogadwyedd ac Anogwr Swyddi yn cefnogi'r dysgwyr ar y safle trwy gydol y rhaglen i sicrhau bod cymorth ac arweiniad wrth law, gan arwain at weithio'n annibynnol yn nhîm ASDA.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol (CDU) sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un rheolaidd gan eu tiwtor personol a swyddog pontio i adolygu eu cynnydd a chymorth yn y lleoliad. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i nod tymor hir. Bydd y myfyrwyr yn gallu cyflawni cymwysterau neu unedau perthnasol hefyd wrth gyflawni’r rhaglen.
Cafodd y rhaglen hon ei chynllunio ar gyfer dysgwyr ag anawsterau a/neu anableddau dysgu sydd angen cymorth i fynd i waith llawn amser gyda thâl. Mae’n addas ar gyfer dysgwyr sy’n symud ymlaen o raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol. Mae’r rhaglen hon wedi’i lleoli ar safle ASDA, lle mae mwyafrif y rhaglen yn brofiad gwaith ymarferol. Bydd myfyrwyr newydd yn ymgymryd ag asesiad a chyflwyniad cychwynnol cynhwysfawr cyn symud ymlaen i raglen brofiad gwaith unigol sy’n gysylltiedig â’u targedau a’u dyheadau penodol. Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.
Y gobaith yw y bydd yr interniaeth yn arwain at waith llawn amser â thâl.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?