Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Amaethyddiaeth

Trosolwg o’r Cwrs

Wrth ddewis HNC mewn Amaethyddiaeth yn Cambria byddwch chi’n astudio ystod o bynciau, a fydd yn rhoi sylfaen eang o wybodaeth i chi sy’n gysylltiedig ag agweddau amrywiol ac allweddol y sector. Mae’r rhaglen hon wedi’i dylunio i gysylltu cyfleoedd gyrfa posib o fewn y sector a helpu i hwyluso eich dilyniant i gyflogaeth neu ragor o astudio, er enghraifft y cwrs Lefel 5 HND (LP01575).

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol, a thiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Bydd y dysgu yn gyfunol, gan gyfuno addysgu ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb.

Prif nodweddion astudio amaethyddiaeth yng Ngholeg Cambria:
● Cyfleusterau rhagorol.
● Mynediad i’r fferm fasnachol 1000 erw er mwyn dysgu sgiliau ymarferol.
● Mae dysgwyr yn elwa o gael mentrau llaeth, sugno a defaid ar y safle.
● Tiwtor personol a chymorth un i un.


BETH FYDDA I’N EI ASTUDIO?
Bydd graddedigion sy’n cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus yn cael set sgiliau amrywiol sy’n addas ar gyfer ystod eang o gyfleoedd o fewn y diwydiant amaethyddol. Mewn sector hynod gystadleuol, bydd myfyrwyr Cambria wedi’u harfogi’n dda i fynd i’r sector waith gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy ac ymarferol y diwydiant ar gyfer gyrfa mewn rheoli fferm, agronomeg, peirianneg amaethyddol a llawer rhagor.

Modiwlau Blwyddyn 1 - Lefel 4

Busnes ac Amgylchedd Busnes
Cyfrif Rheoli
Rheoli Prosiect Llwyddiannus
Egwyddorion Cynhyrchu Da Byw
Iechyd a Lles Anifeiliaid
Egwyddorion Cynhyrchu Cnydau
Peirianneg a Thechnoleg Tir
Cyfrifeg a Gweinyddu Busnesau Gwledig

Modiwlau Blwyddyn 2
Rhai modiwlau o flwyddyn 1 uchod os ydych chi’n astudio'r cwrs HNC yn rhan-amser.

Yn ogystal â’r unedau theori uchod mae gan y myfyrwyr diwtorialau pwrpasol, sesiynau sgiliau astudio a sesiynau ymarferol i gefnogi eu hastudiaethau’n rhagor.
Caiff yr HNC ei asesu gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau gan gynnwys aseiniadau ysgrifenedig, adeiladu portffolio a dyddlyfrau. Mae asesiadau yn feini prawf hanfodol o bob modiwl.

Lefel 3 mewn Amaethyddiaeth neu bwnc perthnasol sy’n ymwneud â’r tir.

I ddysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, un o’r canlynol:


● Cymhwyster lefel 3 (120 credyd / 720 GLH o leiaf) mewn Amaethyddiaeth neu bwnc perthnasol gyda phroffil Teilyngdod – 64 pwynt Tariff UCAS
●Graddau Safon Uwch DDE – 64 pwynt Tariff UCAS o leiaf
●Cyfwerth rhyngwladol i’r uchod


I ddysgwyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, bydd ceisiadau’n cael eu hystyried fesul cais, ond gallai gynnwys un o’r canlynol:


●Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch a ddyfernir gan sefydliad addysg bellach cymeradwy mewn maes perthnasol
●Profiad gwaith perthnasol


Fel arfer dylai ymgeisydd fod â gradd A* i C a/neu 9 i 4 mewn TGAU Saesneg / Cymraeg a Mathemateg / Rhifedd

Ar ôl cwblhau’r cwrs HND yn llwyddiannus yng Ngholeg Cambria gall dysgwyr symud ymlaen i astudio Gradd Baglor gysylltiedig gyda darparwr AU arall. Fel arall bydd y dysgwr wedi’u harfogi’n dda ar gyfer y gyrfaoedd canlynol:

Rheolwr Fferm / Rheolwr Fferm Cynorthwyol
Ffermwr
Swyddog Amaethyddol
Cynrychiolydd Gwerthiannau Technegol
Rheolwr Buches
Bugail



Llawn Amser – £5000 y flwyddyn
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Defnyddiwch Goleg Cambria fel y Sefydliad ar eich cais Cyllid Myfyrwyr.



Dylai’r holl fyfyrwyr sicrhau bod ganddynt yr offer
ysgrifennu perthnasol ar gyfer y cwrs a gan fod peth
o’r cwrs yn cael ei gwblhau ar fferm y coleg, bydd
angen i’r dysgwr brynu’r eitemau sydd ar y
Rhestr Cit canlynol cyn dechrau’r cwrs:
Welingtons gyda blaen dur
Trowsus glaw gwrth-ddŵr (awgrymir math Flexothane)
Cot law gwrth-ddŵr
Esgidiau diogelwch
Dau bâr o oferôls
Gellir prynu’r eitemau uchod o’r rhan fwyaf o
gyflenwyr amaethyddol.
Gellir archebu oferôls glas tywyll gyda logo Coleg
Cambria o flaen llaw a’u danfon i Lysfasi o Workplace
Worksafe yn Rhuthun

Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?