Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01242
Lleoliad
Ffordd y Bers
Hyd
Rhan Amser, 2 flynedd – rhan amser rhyddhau am y diwrnod

Bydd gofyn i fyfyrwyr ar y cwrs hwn ymgymryd â chyfnodau hunanastudiaeth, yn ychwanegol at yr oriau a addysgir.

Byddwn yn cyflwyno’r rhaglen hon trwy gyfuniad o sesiynau ar-lein a sesiynau wyneb yn wyneb i gyd-fynd â’ch anghenion unigol, yn amodol ar allu gweithi
o dan arweiniad a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru i sicrhau eich diogelwch chi a’n staff ni.
Byddwn hefyd yn parhau i roi cymorth o bell i’r rhai sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Sylwch, os yw rhesymau diogelwch yn ei hatal rhag trefnu lleoliadau gwaith, byddwn yn addasu modiwlau i gynnwys prosiectau a fydd yn parhau i ddatblygu eich sgiliau yn y gwaith.
Adran
Adeiladu a Gwaith Adeiladu, Gwaith Adeiladu Technegol
Dyddiad Dechrau
15 Sep 2025
Dyddiad gorffen
30 Jul 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Cynigir HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Peirianneg Sifil) yn Cambria trwy gytundeb cydweithredol â Pearson. Mae’r rhaglen yn cynnwys astudiaeth ddwy flynedd ran-amser gyda rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod a bydd angen cwblhau 10 modiwl galwedigaethol benodol.

Nod y rhaglen yw paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd sgiliau technegol uwch, gyrfaoedd proffesiynol a rheoli mewn astudiaethau adeiladu, trwy ddarparu astudiaethau arbenigol sy’n berthnasol i’r galwedigaethau a’r proffesiynau hynny y mae myfyrwyr yn gyflogedig neu’n chwilio am waith ynddynt.

Cafodd y rhaglen ei strwythuro fel bod myfyrwyr yn gallu meithrin ystod o sgiliau a thechnegau, rhinweddau personol ac agweddau sy’n hanfodol er mwyn llwyddo yn eu bywyd gwaith.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu drwy ddarlithoedd ffurfiol, wedi’u hategu gan waith labordy, profi deunyddiau, tirfesur, gwaith maes, teithiau maes, ymweliadau safle a gwaith lluniadu a dylunio.

MODIWLAU:
Uned 1 - Prosiect Unigol
Uned 2 - Technoleg Adeiladu
Uned 3 - Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4 - Arferion a Rheoli Adeiladu
Uned 6 - Gwybodaeth Adeiladu (Lluniau, Manylion, Manyleb)
Uned 7 - Tirfesur, Mesur a Chynllunio
Uned 8 - Mathemateg Adeiladu
Uned 20 - Egwyddorion Dylunio Strwythurol
I ddysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, un o’r canlynol:

● Cymhwyster Lefel 3 (o leiaf 120 credyd / 720 GLH) mewn adeiladu/peirianneg sifil mewn maes pwnc cysylltiedig gyda phroffil Teilyngdod (MPP) – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS
●Graddau Safon Uwch DDE – o leiaf 64 pwynt Tariff UCAS
●Cymhwyster rhyngwladol sy’n gyfwerth

Ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi bod mewn addysg bydd ceisiadau yn cael eu hystyried ar sail unigol, er y gallai gynnwys un o’r canlynol:

●Tystysgrif Addysg Uwch a ddyfernir gan sefydliad addysg bellach gymeradwyedig mewn maes perthnasol
●Profiad gwaith cysylltiedig (3-5 mlynedd mewn swydd oruchwyliol)

Fel arfer dylai ymgeiswyr feddu ar radd A* i C a/neu 9 i 4 mewn TGAU Saesneg / Cymraeg a mathemateg / rhifedd.

Rhoddir y gofynion mynediad fel canllaw cyffredinol i lefel y cynnig a wneir. Os nad ydych yn siŵr a ydych yn bodloni’r gofynion mynediad, cysylltwch â ni.

Byddwn yn asesu’r cwrs trwy gyflwyniadau ysgrifenedig, arholiadau dan reolaeth amser a gweithgareddau ymarferol.
BETH NESAF?
• BSc Astudiaethau Peirianneg Sifil
• BSc (Anrh) Rheoli Adeiladwaith
• BSc (Anrh) Rheoli Eiddo Tirog

DEWISIADAU GYRFA
Mae HNC mewn Astudiaethau Adeiladu yn rhoi cymhwyster technegol uwch i fyfyrwyr a fydd yn briodol iddynt wrth ddilyn eu huchelgais o ran gyrfa yn sectorau canlynol y diwydiant peirianneg sifil:
• Peirianneg Sifil
• Peirianneg Strwythurol
• Peirianneg Priffyrdd
• Peirianneg Rheilffyrdd
• Peirianneg Iechyd y Cyhoedd a llawer rhagor.
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Gallai ffioedd godi yn unol â chwyddiant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Gall cyllid fod ar gael trwy gyllid PLA yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. Anfonwch e-bost at pla@cambria.ac.uk am ragor o fanylion.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?