Trosolwg o’r Cwrs

Cynigir HNC mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig (Adeiladu) yn Cambria trwy gytundeb cydweithredol â Pearson. Mae’r rhaglen yn cynnwys astudiaeth ddwy flynedd ran-amser
gyda rhyddhau o’r gwaith am ddiwrnod a bydd angen cwblhau wyth modiwl galwedigaethol penodol.

Nod y rhaglen yw paratoi myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd sgiliau technegol uwch, gyrfaoedd proffesiynol a rheoli mewn astudiaethau adeiladu, trwy ddarparu astudiaethau arbenigol
sy’n berthnasol i’r galwedigaethau a’r proffesiynau hynny y mae myfyrwyr yn gyflogedig neu’n chwilio am waith ynddynt.

Cafodd y rhaglen ei strwythuro fel bod myfyrwyr yn gallu meithrin ystod o sgiliau a thechnegau, rhinweddau personol ac agweddau sy’n hanfodol er mwyn llwyddo yn eu bywyd gwaith.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu drwy ddarlithoedd ffurfiol, wedi’u hategu gan waith labordy, profi deunyddiau, tirfesur, gwaith maes, teithiau maes, ymweliadau safle a gwaith lluniadu a dylunio.

MODIWLAU:
Uned 1 - Prosiect Unigol
Uned 2 - Technoleg Adeiladu
Uned 3 - Gwyddoniaeth a Deunyddiau
Uned 4 - Ymarfer a Rheoli Adeiladu
Uned 5 - Cyfrifoldebau Cyfreithiol a Statudol mewn Adeiladu
Uned 6 - Gwybodaeth Adeiladu (Llun, Manylu, Manyleb)
Uned 7 - Tirfesur, Mesur a Chynllunio
Uned 21 - Goruchwylio Safle a Gweithrediadau
Byddwn yn asesu’r cwrs trwy gyflwyniadau ysgrifenedig, arholiadau dan reolaeth amser a gweithgareddau ymarferol.
Mae angen un o’r canlynol ar gyfer dysgwyr sydd wedi bod mewn addysg yn ddiweddar:

● Cymhwyster lefel 3 (o leiaf 120 credyd / 720 ODA) mewn adeiladu/peirianneg sifil neu faes pwnc cysylltiedig gyda phroffil Theilyngdod (Teilyngdod, Llwyddo, Llwyddo) – o leiaf 64 o bwyntiau tariff UCAS
●Graddau DDE mewn pynciau Safon Uwch – o leiaf 64 o bwyntiau tariff UCAS
●Unrhyw raddau rhyngwladol cyfwerth â’r uchod

Ar gyfer dysgwyr nad ydynt wedi bod mewn addysg yn ddiweddar, byddwn yn ystyried pob achos fesul cais, ond gall gynnwys un o’r canlynol:

●Tystysgrif Mynediad i Addysg Uwch mewn maes perthnasol wedi’i dyfarnu gan sefydliad addysg bellach wedi’i gymeradwyo
●Profiad gwaith cysylltiedig (3-5 mlynedd mewn swydd oruchwylio)

Fel arfer, bydd disgwyl i ymgeiswyr gael gradd A* i C a/neu radd 9 i 4 mewn TGAU Cymraeg / Saesneg a mathemateg / rhifedd.

Mae’r gofynion mynediad yn ganllawiau cyffredinol i lefel y cynnig y byddwn yn ei wneud. Cysylltwch â ni os ydych chi’n ansicr a ydych yn bodloni’r gofynion mynediad.
• BSc (Anrh) Rheoli Adeiladwaith
• BSc (Anrh) Rheoli Eiddo Tirog
• BSc (Anrh) Technoleg Dylunio Bensaernïol

DEWISIADAU GYRFA
Mae HNC mewn Astudiaethau Adeiladu yn rhoi cymhwyster technegol uwch i fyfyrwyr a fydd yn briodol iddynt wrth ddilyn eu huchelgais o ran gyrfa yn sectorau canlynol y diwydiant adeiladu:
• Rheoli Adeiladu
• Technoleg Bensaernïol
• Syrfeo Meintiau
• Syrfeo Adeiladau
• Tirfesur a llawer rhagor.
Rhan Amser – £2500 y flwyddyn

Gallai ffioedd godi yn unol â chwyddiant ar gyfer yr holl fyfyrwyr sy’n dechrau eu hastudiaethau yn 2025/26 neu 2026/27.

Gall cyllid fod ar gael trwy gyllid PLA yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol. Anfonwch e-bost at pla@cambria.ac.uk am ragor o fanylion.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?