Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO) - TAR/TBA

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP51316
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, 1 flwyddyn llawn amser
2 flynedd rhan amser
Adran
Addysgu, Asesu ac Addysg
Dyddiad Dechrau
23 Sep 2025
Dyddiad gorffen
30 May 2027

Trosolwg o’r Cwrs

Mae ein rhaglen AHO yn eich darparu chi gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy'n eich galluogi chi i archwilio ystod o yrfaoedd addysgu yn y sector Dysgu Gydol Oes. Mae hyn yn cynnwys, Addysg Bellach, darpariaeth gwaith ieuenctid, y sector oedolion a chymunedol, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn lluoedd Ei Fawrhydi, addysg carchardai, adrannau hyfforddiant masnachol a diwydiant.

Noder: Mae'r AHO yn canolbwyntio ar addysgu yn y sector ôl-orfodol, felly nid yw'n arwain at SAC sy'n ofynnol i addysgu mewn ysgolion.

Mae dau gwrs ar gael yn dibynnu ar eich cymwysterau presennol:

Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) AHO - Lefel 6

Noder: Mae’r AHO TAR ar gyfer graddedigion sy’n dymuno addysgu eu pwnc gradd neu faes y maen nhw wedi’i gymhwyso ynddo hyd at Lefel 3 neu uwch.

Tystysgrif Broffesiynol mew Addysg (TBA) AHO - Lefel 5

Noder: Mae’r AHO TBA ar gyfer myfyrwyr sydd â chymhwyster lefel 3 yn y maes y maen nhw’n dymuno ei addysgu a phrofiad yn y diwydiant.

Bydd myfyrwyr graddedig (sy'n astudio'r AHO ar Lefel 6) a myfyrwyr nad ydynt yn raddedigion (sy'n astudio'r AHO ar Lefel 5) yn dilyn yr un rhaglen astudio, fodd bynnag, byddan nhw’n cael eu hasesu ar y lefelau gwahanol.

Gall myfyrwyr ddewis astudio'r AHOP naill ai ar safle Iâl neu safle Glannau Dyfrdwy. Gellir cwblhau hyn naill ai'n llawn amser (1 flwyddyn astudio) neu'n rhan-amser (2 flynedd o astudio).

BETH FYDDAF YN EI ASTUDIO?

Mae dulliau dysgu cyfranogol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn cael eu mabwysiadu sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr ymgymryd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu fel trafodaethau grŵp, trafod a dulliau dysgu cyfunol. Mae'r dull hwn sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr yn caniatáu i fyfyrwyr gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu eu hunain gyda thiwtoriaid yn cael eu hystyried fel hwyluswyr dysgu, gan ddarparu adnoddau, ysgogi, cefnogi a herio yn ôl yr angen.

Mae'r tîm yn ymfalchïo yn y lefel uchel o gefnogaeth ac arweiniad a ddarperir, sy'n cael ei amlygu'n rheolaidd o fewn adborth myfyrwyr.

LLEOLIAD GWAITH

Mae'r ddau lwybr yn ei gwneud yn ofynnol i fyfyrwyr gwblhau lleoliad addysgu. Os nad ydych chi eisoes mewn cyflogaeth addysgu, byddwn ni’n eich cefnogi i geisio sicrhau lleoliad addysgu (a mentor). Fodd bynnag, sylwch mai myfyrwyr yn y pen draw sy'n gyfrifol am drefnu eu lleoliad addysgu eu hunain a dod o hyd i fentor pwnc addas i gefnogi eu hymarfer addysgu proffesiynol.

Mae'n ofynnol i fyfyrwyr sy'n gweithio yn y sectorau AB a dysgu yn y gwaith gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) ac mae'r broses hon yn cael ei hwyluso trwy gysylltiadau tîm rhaglen â chynrychiolwyr CGA.

Mae myfyrwyr sy'n dymuno addysgu mewn Addysg Uwch yn cael eu cyfeirio at aelodaeth o’r elusen Advance AU fel rhan o'u DPP.
AHO (TBA – Lefel 5)

Lefel 3 neu uwch mewn disgyblaeth alwedigaethol yr hoffech chi ei haddysgu.

Mae angen gwiriad Heddlu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y cwrs hwn.

AHO (TAR – Lefel 6)


Gradd Anrhydedd yn y pwnc yr hoffech chi ei addysgu.

Mae angen gwiriad Heddlu manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) ar gyfer y cwrs hwn.
Mae ein rhaglen AHO yn eich darparu chi gyda chymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol sy’n eich galluogi chi i archwilio ystod o yrfaoedd addysgu yn y sector Dysgu Gydol Oes. Mae hyn yn cynnwys, Addysg Bellach, darpariaeth gwaith ieuenctid, y sector oedolion a chymunedol, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn lluoedd Ei Fawrhydi, addysg carchardai, adrannau hyfforddiant masnachol a diwydiant.

Noder: Mae’r AHO yn canolbwyntio ar addysgu yn y sector ôl-orfodol, felly nid yw’n arwain at SAC sy’n ofynnol i addysgu mewn ysgolion.
Mae’r AHO (TAR/TBA) wedi’i gynllunio’n arbennig ar gyfer y rhai sydd eisiau cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol er mwyn addysgu myfyrwyr yn y sector addysg ôl-orfodol. Mae hyn yn cynnwys addysg bellach, darpariaeth gwaith ieuenctid, y sector oedolion a chymunedol, addysg yn y gwaith, hyfforddiant yn lluoedd Ei Fawrhydi, addysg carchardai, adrannau diwydiant a hyfforddiant masnachol.
Llawn amser £TBC y flwyddyn
Rhan-amser £TBC y flwyddyn

Bydd myfyrwyr yn talu costau teithio yn ystod cyfnodau o leoliad gwaith.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?