FdA Astudiaethau Plentyndod
Trosolwg o’r Cwrs
Bydd y radd sylfaen hon yn cael ei chyflwyno gan Goleg Cambria. Drwy gydol y radd sylfaen, byddwch chi'n archwilio ystod amrywiol o feysydd sy’n ganolog i fywydau plant a bydd gennych chi'r sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol i weithio mewn ystod o broffesiynau sy’n ymwneud â phlant. Bydd y radd sylfaen yn rhoi sylfaen gadarn o wybodaeth a dealltwriaeth i chi, yn ogystal â sgiliau beirniadol a gwerthusol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.
Yn nwy flynedd y radd sylfaen, mae cyfleoedd i ymgymryd â lleoliadau gwaith mewn lleoliad gofal plant neu addysg. Mae'r amser hwn mewn lleoliadau yn cynnig profiadau ymarferol o amgylcheddau dysgu a gofal yn ogystal â darparu cyfleodd i arsylwi a rhyngweithio â phlant. Mae'r elfen ymarferol hon yn elfen bwysig o'r cwrs, sy'n eich galluogi chi i gysylltu theori ag ymarfer a gwella'ch sgiliau proffesiynol.
Bydd cwblhau Blwyddyn 1 a 2 yn llwyddiannus yn galluogi myfyrwyr i ennill Gradd Sylfaen (FdA). Bydd cwblhau'r FdA yn llwyddiannus yn galluogi symud ymlaen i'r BA ym Mlwyddyn 3.

Bydd y deunydd cwrs yn cael ei gyflwyno trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau rhyngweithiol, siaradwyr gwadd a gweithdai. Bydd y darlithoedd yn cael eu recordio fel y gallwch chi wrando arnyn nhw yn eich amser eich hun.
Bydd amrywiaeth o dechnegau asesu yn eich galluogi i fanteisio ar eich cryfderau. Gall asesiadau gynnwys arholiadau, traethodau, prosiectau, ymarferion llyfryddiaeth, gwerthuso adnoddau, posteri, a chyflwyniadau.
Bydd cymorth myfyrwyr ar gael drwy gydol eich astudiaethau.

96 pwynt UCAS
Bydd ymgeiswyr sydd â phrofiad galwedigaethol sylweddol ond heb ddigon o bwyntiau UCAS yn cael eu hystyried fesul cais.
Mae angen Gwiriad Heddlu Uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS). Os ydych chi’n bwriadu cyflawni eich lleoliad(au) gyda’ch gweithle presennol a bod gennych chi wiriad DBS yn ei le yn barod, byddwn ni’n gofyn i chi ddod â’ch tystysgrif DBS i mewn i’w fetio a bydd angen i chi ganiatáu i ni gofnodi’r Rhif tystysgrif DBS. Os ydych chi’n bwriadu cyflawni eich lleoliad(au) mewn lleoliad nad oes gennych wiriad DBS dilys ar ei gyfer ar hyn o bryd, bydd gofyn i chi gwblhau gwiriad DBS trwy Goleg Cambria. Ar hyn o bryd, mae’r coleg yn talu am gost eich gwiriad DBS. Bydd gofyn i chi ddod â’ch gwiriad DBS i mewn ar gyfer fetio a bydd angen i chi ganiatáu i ni gofnodi rhif tystysgrif y DBS.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen yn hyderus i yrfaoedd ym maes addysg, gofal cymdeithasol, nyrsio, therapi lleferydd, gwaith cymdeithasol, lles plant, therapi chwarae, y diwydiant hamdden, cyfraith plant ac ymchwil plentyndod.
Ar ôl cwblhau’r FdA yn llwyddiannus, mae myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen i flwyddyn atodol BA.
Bydd myfyrwyr hefyd yn elwa o sgiliau trosglwyddadwy fel:
Y gallu i fynegi eu syniadau’n glir ar lafar ac yn ysgrifenedig
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Y gallu i weithio’n annibynnol
Sgiliau rheoli amser a threfnu
Hunan-gymhelliant a hunanddibyniaeth
Y gallu i weithio fel rhan o dîm
Sgiliau ymchwil effeithiol

£TBC y flwyddyn
Bydd myfyrwyr yn talu costau teithio yn ystod cyfnodau o leoliad gwaith.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.