Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01061
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae hwn yn gwrs 1 flwyddyn llawn amser a gynhelir dros 5 diwrnod yr wythnos.
Adran
Peirianneg, Gweithgynhyrchu a Chynnal a Chadw
Dyddiad Dechrau
04 Sep 2025
Dyddiad gorffen
22 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs Peirianneg Uwch (Llwybr at Brentisiaeth) wedi'i gynllunio'n benodol ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno cael Prentisiaeth Fodern mewn Peirianneg a dilyn gyrfa mewn Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Drydanol/Electronig, Peirianneg Awyrofod neu Beirianneg Gweithgynhyrchu, neu barhau â'u hastudiaethau i addysg uwch.

Yn ystod y cwrs byddwch yn cwblhau:

1. Diploma Lefel 2 mewn Perfformio Gweithrediadau Peirianneg (PEO)
● Cynhyrchu Modelau CAD
● Cynnal a Chadw Cyfarpar Mecanyddol
● Cydosod a Phrofi Dyfeisiau Electronig
● Iechyd a Diogelwch
● Gweithio’n Effeithlon ac Effeithiol mewn Peirianneg
● Cyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol


2. Dyfarniad BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Gweithgynhyrchu Uwch
● Mathemateg ar gyfer Peirianneg
● Cyfathrebu ar gyfer Peirianneg
● Egwyddorion Trydanol ac Electronig
● Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle Peirianneg
● Egwyddorion Mecanyddol
● Technoleg Drydanol

Byddwch hefyd yn cwblhau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Llythrennedd Digidol a Sgiliau Cyflogadwyedd.

Gan ei bod yn rhaglen Uwch, mae ffocws penodol ar gyflogaeth drwy gydol y flwyddyn. Mae myfyrwyr yn cael sesiynau cymorth ychwanegol i weithio gyda thiwtoriaid arbenigol i ddatblygu eu CV a’u sgiliau cyfweld, a hefyd yn gweithio gyda’n Siop Swyddi fewnol i’w helpu i nodi a gwneud cais am swyddi gwag prentisiaeth gyda’n cwmnïau partner.

Mae gan y rhaglen hefyd fantais o hyd at 5 wythnos o brofiad gwaith gydag un o'n cwmnïau partner Peirianneg. Bydd hyn yn rhoi blas i fyfyrwyr o sut y gallai eu gyrfa bosibl edrych a'r cyfle iddynt ddechrau rhwydweithio â chysylltiadau diwydiant. Sylwch, gall lleoliadau profiad gwaith ddisgyn i gyfnodau gwyliau coleg nodweddiadol (e.e. hanner tymor mis Hydref, y Pasg ac ati).

Er mwyn helpu i integreiddio ymhellach â'r diwydiant Peirianneg lleol, mae'r rhaglen hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill gwobr Cadetiaid Diwydiannol (Efydd). Mae’r wobr hon yn cynnwys grwpiau bach o ddysgwyr yn gweithio gyda mentoriaid diwydiant penodol i ddatblygu datrysiad i broblem beirianneg, gan arwain at seremoni ‘raddio’ lle gallant ddangos datrysiadau eu prosiect.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf), Gwyddoniaeth a Mathemateg (bydd haen uwch Mathemateg yn fuddiol) NEU Cwblhau rhaglen Lefel 2 berthnasol yn llwyddiannus. Rhaid i hyn gynnwys cyflawni rhifedd a llythrennedd yn llwyddiannus

I fod yn gymwys ar gyfer y rhaglen, mae’n rhaid i ddysgwyr fod yn 16 – 24 oed ar 31 Awst.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Po orau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gall olygu y byddwch yn cael mynediad i gwrs lefel uwch.
Mae asesu ar gyfer pob uned a modiwl o fewn y cwrs ar ffurf aseiniadau damcaniaethol ac ymarferol.
-Prentisiaethau Peirianneg / Gweithgynhyrchu.

– Mynd ymlaen i gwrs Diploma Estynedig BTEC Lefel 3 am flwyddyn arall o astudio, lle byddwch yn cwblhau 120 credyd arall o unedau BTEC. Mae enghreifftiau o unedau’n cynnwys Mathemateg Bellach, Egwyddorion Mecanyddol Pellach, Egwyddorion Trydanol/Electronig Pellach, Prosiect Peirianneg, Electroneg ac Astudiaethau Busnes Peirianneg, ymhlith eraill.

– Bydd cwblhau’r Diploma Estynedig yn cefnogi dilyniant tuag at fynd i Addysg Uwch lawn amser (Prifysgol).
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?