Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Torri Gwallt Dynion

Trosolwg o’r Cwrs

Os ydych chi’n chwilio am yrfa gyffrous mewn Torri Gwallt Dynion yna dyma’r cwrs i chi.

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Torri Gwallt Dynion yn gymhwyster sydd wedi’i gynllunio’n arbennig i ddatblygu eich sgiliau ymarferol yn;

• y gelfyddyd greadigol o dorri gwallt dynion,
• y gwaith arbenigol o dorri gwallt dynion,
• sut I roi gwasanaethau rhoi siampŵ a chyflyrydd neu steilio a sut I gynnig gwasanaeth ymgynghori da I gleientiaid.

Yn sail i’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o iechyd a diogelwch a sut beth yw gweithio yn y diwydiant trin gwallt. Hefyd, byddwch yn meithrin dealltwriaeth greiddiol a dealltwriaeth o’r sgiliau ymarferol a ddysgir trwy gydol y cymhwyster hwn.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Torri Gwallt Dynion, mae’r rhaglen maes dysgu yn cynnwys yr elfennau gorfodol canlynol i’r cwrs:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau Cymraeg
● Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau lleoliad gwaith
Byddwch yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau ymarferol ac yn cael eich asesu’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn.

Byddwn yn profi gwybodaeth a dealltwriaeth greiddiol trwy aseiniadau ysgrifenedig ac arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 yn llwyddiannus.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.
L2 Trin Gwallt
L2 Trin Gwallt a Cholur y Cyfryngau
L3 Torri Gwallt Dynion

Gall y cymhwyster hwn arwain at waith yn uniongyrchol yn y diwydiant torri gwallt dynion fel steilydd iau neu i weithio fel torrwr gwallt dynion annibynnol.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?