Ll 1 Lletygarwch ac Arlwyo
Trosolwg o’r Cwrs
Cynigir y Diploma ar Lefel 1 yn llawn amser, ynghyd â chyfle ychwanegol i gael profiad allgyrsiol gyda'r nos ac ar benwythnosau mewn digwyddiadau.
Bydd y cwrs astudio’n cynnwys: Sesiynau ymarferol a chynhyrchu yn y pantri, man crwst a'r gegin, gweini blaen tŷ a'r dderbynfa i gynnwys digwyddiadau ar y safle ac oddi arno. Bydd sesiynau eraill yn cynnwys theori berthnasol, gweinyddu, tiwtorialau, dysgu’n seiliedig ar adnoddau, llunio portffolio a sgiliau hanfodol/allweddol.
Bydd myfyrwyr diploma yn gweithio ar rota ym mhob adran cynhyrchu’r adran i ennill profiad cyffredinol gwerthfawr, gan gynnwys ceginau a bwytai. Bydd unedau ymarferol yn cael eu cwblhau mewn ceginau cynhyrchu a bwytai lle bydd prydau’n cael eu paratoi ar gyfer y bwyty a’u gweini i’r cyhoedd. Bydd myfyrwyr hefyd yn cyflawni Tystysgrif Gwasanaethau Bwyd a Diod fel rhan o’u profiad yn gweithio fel aelod blaen tŷ yn ein bwytai hyfforddi.
Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau ymarferol a theori yn ymdrin â phynciau fel:
Diogelwch bwyd mewn Arlwyo
Paratoi a choginio bwyd trwy ferwi, potsio, stemio, stiwio, brwysio, rhostio, grilio, pobi a ffrio
Paratoi bwyd oer
Deddfwriaeth sy'n effeithio ar y diwydiant
Ymwybyddiaeth o iechyd a diogelwch
Mae'r cwrs yn cynnwys dau arholiad synoptig. Mae’r rhain yn arholiadau ymarferol lle bydd gofyn i ddysgwyr baratoi, coginio a gorffen nifer o seigiau o fewn cyfnod penodol.
Mae myfyrwyr i wneud yr arholiadau hyn yn annibynnol, felly mae angen sgiliau trefnu da arnynt a'r gallu i wneud sawl tasg ar unwaith.
Byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu llythrennedd a rhifedd ar y rhaglen, a bydd cyfle i chi ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif neu ail-sefyll arholiadau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.
Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Amrywiaeth – arsylwadau, aseiniadau ysgrifenedig. Mae ychydig o’r wybodaeth greiddiol yn cael ei hasesu gan ddefnyddio profion papur byrion. Mae mathau eraill o ddulliau asesu yn cynnwys tasgau / aseiniadau ymchwil, gan gynnwys;
Dylunio bwydlenni / Rhoi ryseitiau amgen gan gynnwys canllawiau maeth cyfredol
Llunio canllawiau, siartiau wal, taflenni/pecynnau gwybodaeth, taflenni a phosteri.
Cyflwyniadau cynhyrchu
Mae unedau coginio’r cwrs hwn yn cael eu hasesu drwy brofion synoptig / coginio prydau unigol sy’n cael ei nodi ym meini prawf y cwrs.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg Iaith Gyntaf/Iaith Saesneg.
I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad – mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster Lefel Mynediad 3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.
Yng Ngholeg Cambria byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch.

Mae hyfforddiant Gwesty ac Arlwyo yn gweithredu fel pasbort rhyngwladol i waith diddorol. Mae’r diwydiant Gwesty ac Arlwyo yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn y wlad, gyda 2.2 miliwn o swyddi a 200,000 o gyfleoedd llawn amser bob blwyddyn i bobl
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.