Trosolwg o’r Cwrs

Cyfuniad o theori ac unedau ymarferol sy'n rhoi cyfleoedd i ennill
y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i fod yn llwyddiannus
mewn astudiaethau yn y dyfodol a chyflogaeth yn y diwydiant
chwaraeon.

Os ydych chi’n angerddol am chwaraeon ac eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant, yna mae’r cwrs hwn yn addas i chi.

Blwyddyn 1
● Gyrfaoedd yn y Diwydiant Chwaraeon a Hamdden Heini
● Iechyd, Llesiant a Chwaraeon
● Datblygu Sgiliau Hyfforddi
● Datblygu Chwaraeon
● Hunangyflogaeth mewn Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol
● Anatomi and Ffisioleg

Blwyddyn 2
● Sgiliau Hyfforddi Cymhwysol
● Prosiect Ymchwil mewn Chwaraeon
● Profi Ffitrwydd
● Seicoleg Chwaraeon
● Cymhwysiad Ymarferol Chwaraeon
● Rheolau a Rheoliadau mewn Chwaraeon

Mae cymwysterau a hyfforddiant ychwanegol ar gael I ddysgwyr dros gyfnod y cwrs dwy flynedd I wella mwy ar ragolygon cyflogadwyedd a dilyniant yn y dyfodol:

● Gwobrau hyfforddi Corff Llywodraethu Cenedlaethol Lefel 1 mewn amrywiaeth o chwaraeon
● Gwobr Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol Lefel 2 Sports Leaders UK
● Cymorth Cyntaf
● Diogelu
Mae’r cwrs yn cynnwys unedau wedi eu hasesu’n fewnol.

Does dim arholiadau a bydd asesiadau’n cael eu cynnal ar ffurf aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, perfformiad chwaraeon ymarferol, cyflwyno sesiynau hyfforddi a chyfnod llwyddiannus mewn lleoliad profiad gwaith.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch, gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) a Mathemateg.

Ar gyfer dysgwyr dilyniant Diploma Lefel 2 mewn pwnc perthnasol gyda TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith.

Mae’n rhaid bod gan ymgeiswyr diddordeb brwd mewn cymryd rhan mewn chwaraeon, eu hyfforddi neu eu gweinyddu.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad i gwrs lefel uwch..
Ar ôl cwblhau’r Diploma Estynedig dwy flynedd, gall dysgwyr symud ymlaen i hybu eu hastudiaeth academaidd yn y brifysgol.

Gall y cwrs dwy flynedd ddenu hyd at 168 o bwyntiau UCAS.

Fel arall, gall myfyrwyr ddod o hyd i fynediad uniongyrchol i gyflogaeth yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol.

Mae ymadawyr diweddar sy’n symud ymlaen i addysg uwch wedi cael lleoedd i astudio cwrs cysylltiedig â chwaraeon ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, John Moores Lerpwl a Phrifysgol Caer. Fel arall, mae ymadawyr eraill wedi cael gwaith yn y diwydiant chwaraeon yn gweithio i gyflogwyr lleol fel Freedom Leisure a’r Urdd.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?