Trosolwg o’r Cwrs

Dyma gwrs ymarferol a byddwch yn meithrin sgiliau mewn nifer o feysydd gwahanol, gan gynnwys Prosesau Peirianneg Fecanyddol, Mainc Ffitio, Gwaith turnio, Mesuriadau a Chyfrifiadau, ac Iechyd a Diogelwch. Bydd y cwrs yn cyflwyno’r damcaniaethau a'r wybodaeth sy'n sail i’r cymwyseddau y byddwch yn eu dysgu.

Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus byddwch yn cael Tystysgrif Dechnegol Lefel 1 City & Guilds yn ogystal â sgiliau hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu.

Tystysgrif Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg City & Guilds 7682:
Gwaith Ymarferol (Unedau Enghreifftiol)
Uned 201 – Gweithio’n Ddiogel mewn Amgylchfyd Peirianneg
Uned 102 – Cyflawni gweithgarwch Peirianneg yn effeithlon ac yn effeithiol
Uned 103 –Defnyddio a Chyfathrebu Gwybodaeth Dechnegol
Uned 104 – Gwneud cydrannau gan ddefnyddio offer llaw a thechnegau ffitio
Uned 105 – Cydosod cydrannau mecanyddol
Uned 107 – Defnyddio turn ar gyfer gweithrediadau turnio

Meithrin sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.

Profiad Gwaith Cysylltiedig

Hefyd mae disgwyl i fyfyrwyr gwblhau naill ai cymhwyster Sgiliau Hanfodol Cymru, TGAU Saesneg a Mathemateg a/neu Lythrennedd Digidol yn dibynnu ar eu graddau cyfredol mewn Mathemateg a Saesneg.

Byddwn yn pennu Anogwr Cynnydd i fyfyrwyr hefyd a fydd yn eu cefnogi nhw trwy gydol eu hamser ar y rhaglen ac yn cwblhau rhaglen tiwtorial personol gyda nhw. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth ADY ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Mae’r cwrs yn cynnig cefnogaeth lawn i fodloni eich anghenion unigol a’ch gwahaniaethau dysgu.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o waith yn y dosbarth a’r gweithdy.
Arsylwi ar asesiadau ymarferol mewn gweithdai peirianneg gydag offer llawn.

Byddwn yn profi’r wybodaeth sylfaenol trwy aseiniadau a chwestiynau ac atebion amlddewis.
4 TGAU gradd E/2 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg iaith/Cymraeg (iaith gyntaf), neu bod wedi cwblhau cymhwyster lefel mynediad perthnasol yn llwyddiannus.

I’r holl ddysgwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i’r cwrs Lefel 1 hwn o’r rhaglen Mynediad, rhaid eich bod wedi cyflawni eich prif gymhwyster, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyrraedd yr holl dargedau yn eich CDU.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch
Cyflogaeth yn y Diwydiant Peirianneg/Mecanyddol.
Symud ymlaen i gyrsiau mwy arbenigol fel PEO L2.
Gall dysgwyr sydd heb raddau TGAU A*-C mewn Mathemateg a Saesneg barhau i gael cymorth i gefnogi eu dilyniant i gyfleoedd cyflogaeth
Twf Swyddi Cymru+
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?