Diploma NVQ VTCT lefel 2 mewn Trin Gwallt ar gyfer dysgwyr 19 oed a hŷn

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i ddysgwyr 19 oed a hŷn.
Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster ‘barod i weithio’ sy’n seiliedig ar y Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol.
Bydd y cwrs yn cael ei gynnal tridiau’r wythnos.
Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar safonau galwedigaethol cenedlaethol ar gyfer trin gwallt ac mae’n cynnwys yr holl elfennau gofynnol sydd eu hangen i weithio’n effeithiol fel triniwr gwallt iau / steilydd gwallt iau.

Mae’n rhaid i ddysgwyr gyflawni pob uned orfodol, sy’n cynnwys:

● Gosod a Thrin Gwallt
● Lliwio a Goleuo
● Ymgynghori
● Siampwio a Chyflyru’r Gwallt
Mae yna unedau dewisol ychwanegol a fydd yn cael eu dewis ar ddechrau'r flwyddyn academaidd.

Bydd dysgwyr yn cwblhau sesiynau profiad gwaith yn rheolaidd yn y salon fasnachol yn Salon Iâl, wrth astudio eu cymwysterau. Mae meithrin sgiliau cyflogadwyedd yn elfen hanfodol o’r cwrs hwn

Ochr yn ochr â hyn, bydd dysgwyr yn meithrin eu sgiliau cyfathrebu a gwasanaethau i gwsmeriaid, eu gwybodaeth am gynaliadwyedd amgylcheddol a’u sgiliau masnachol. Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar y rhain i gyd.

Yn ogystal â’r cymhwyster Lefel 2 mewn Trin Gwallt, bydd rhaglen y maes dysgu yn cynnwys yr unedau gorfodol canlynol:

● Hyfforddiant ac asesiadau Sgiliau Hanfodol Cymru
● Datblygu sgiliau’r Gymraeg
● Mae’n rhaid i bob dysgwr gwblhau cyfnod lleoliad gwaith allanol

Sylwch y gallai eich amserlen gynnwys rhai sesiynau gyda’r nos. Bydd eich tiwtor yn rhoi’r dyddiadau i chi yn ystod y cyfnod ymsefydlu.
Mae gwaith cwrs yn cael ei wneud trwy asesu parhaus trwy arsylwi ymarferol, aseiniadau ac arholiadau.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg a Chymraeg (Iaith Gyntaf)/Iaith Saesneg neu llwyddiant neu’n uwch mewn cymhwyster Lefel 1 sy’n berthnasol yn alwedigaethol.

Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ i astudio’r cwrs hwn.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn gallu symud ymlaen i gwrs Lefel 3 mewn Trin Gwallt neu Therapi Harddwch neu Brentisiaeth Fodern mewn Trin Gwallt.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?