Tystysgrif Estynedig lefel 2 mewn Gwybodaeth a Thechnoleg Greadigol

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Technoleg Gwybodaeth yn un o’r sectorau sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Bydd y cwrs yn datblygu eich sgiliau mewn TG ac yn eich darparu gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen o safle cryf.

Cewch gyfle i gaffael gwybodaeth a dealltwriaeth eang o’r sector Technoleg Gwybodaeth, ynghyd ag agweddau o’r diwydiannau creadigol.

Byddwch yn archwilio hanfodion technoleg ac yn caffael y wybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau ymarferol i ddylunio, gwneud ac adolygu’r gwahanol fathau o dechnolegau meddalwedd a chaledwedd. Mae hyn yn cynnwys sgiliau TG sylfaenol, yn ogystal â chodio, dylunio gwe, a chymorth TG.
Cewch eich asesu trwy gyfuniad o aseiniadau, profion ar-lein a thasgau ymarferol yn gysylltiedig â gwaith. Bydd eich tiwtor yn asesu eich aseiniadau a byddant yn cael eu safoni gan BTEC.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith/Cymraeg (Iaith 1af), neu fod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 perthnasol yn llwyddiannus ynghyd â TGAU Mathemateg a Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) gradd D/3 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Bydd gennych chi ragor o ddewisiadau os oes gennych chi raddau da, a gallai hynny arwain at gael mynediad I gwrs lefel uwch.
Bydd cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus yn rhoi cyfle I chi astudio’r pwnc ymhellach ar Lefel 3, prentisiaeth neu waith.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?