Trosolwg o’r Cwrs

Mae Mynediad i Gerbydau Modur yn cynnig rhaglen a gefnogir yn llawn i ddysgwyr ar gam cyntaf eu taith addysg bellach yn y coleg.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at y rheiny sy’n dymuno dechrau yn y diwydiant trwsio a gwasanaethu cerbydau modur. Byddwch yn dysgu am wasanaethu a thrwsio sylfaenol. Bydd dysgwyr yn datblygu ychydig o sgiliau a dealltwriaeth am systemau cerbydau modur. Bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i symud i lefel nesaf y cymhwyster. Gallai’r cymhwyster hwn hefyd gael ei ddefnyddio fel cwrs ‘o ddiddordeb’ i ystod eang o ddysgwyr.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i bobl ifanc i chwalu unrhyw rwystrau sydd ganddynt o bosib i ddysgu, gan eu galluogi i dyfu a datblygu; yn bersonol, yn gymdeithasol ac yn academaidd, er mwyn cyflawni eu potensial llawn yn llwyddiannus a symud ymlaen i lefel nesaf eu dysgu neu gyflogaeth yn y dyfodol.

Bydd y cwricwlwm craidd yn helpu dysgwyr i ddatblygu eu hyder a’i sgiliau bywyd a chyflogadwyedd mewn amgylchedd cefnogol a chroesawgar.

Bydd gweithgareddau cyfoethogi yn datblygu sgiliau cyfathrebu, gwaith tîm ac arwain, gan eich helpu i adeiladu eich hyder a goresgyn unrhyw bryderon neu rwystrau cymdeithasol sydd gennych chi. Yn ystod y gweithgareddau hyn, bydd dysgwyr yn gweithio tuag at Dystysgrif Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a Gwobr Efydd Dug Caeredin.

Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pan fydd y dysgwyr yn barod, byddant yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.

Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y rhaglen yn cael ei chyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn gymysgedd o ddarpariaeth yn yr ystafell ddosbarth, mewn gweithdy ac oddi ar y safle.
Bydd pob dysgwr yn cwblhau’r asesiadau diagnostig WEST ar gyfer llythrennedd a rhifedd. Bydd myfyrwyr yn gweithio tuag at ystod o unedau i’w helpu i gyflawni cymhwyster Mynediad Sgiliau Bywyd a Byw, cymhwyster Cyflawniad Ymddiriedolaeth y Tywysog a gwobr efydd Dug Caeredin i’w cynorthwyo i symud ymlaen i addysg bellach neu ddysgu yn y gwaith.

Bydd ystod o ddulliau yn cael eu defnyddio I asesu dysgwyr, gan gynnwys adeiladu portffolio, arholiadau ysgrifenedig a byr ar-lein, ac asesiadau ymarferol.

Bydd asesiadau ymarferol yn cael eu cynnal yn ystod gweithgarwch gweithdy, ac yn cael eu hasesu mewn amgylchedd gwaith realistig.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed.

Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy’n gweithio ar lefel Mynediad ac nid oes angen cymwysterau ffurfiol i ddechrau ar y cwrs hwn.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd dysgwyr yn cael cymorth i gynllunio eu camau nesaf drwy gydol y cwrs. Gellir symud ymlaen i un o’r canlynol:

● Cwrs lefel uwch mewn maes galwedigaethol o’ch dewis chi
● Twyf Swyddi Cymru+
● Gwaith
● Rhaglen yn y gymuned
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?