Tystysgrif Sylfaen Lefel 3 CIPD mewn Arferion Pobl

Trosolwg o’r Cwrs

DARPARIAETH / CYMORTH TIWTOR:

Dyma raglen a addysgir, gyda chymorth tiwtor ar gyfer asesiadau ac aseiniadau. (Rhan-amser, prynhawn 4 awr yr wythnos). Bydd y rhaglen yn cynnwys 4 uned graidd orfodol:

Busnes, Diwylliant a Newid Mewn Cyd-destun
Egwyddorion Dadansoddi Data
Ymddygiadau Craidd i weithwyr proffesiynol pobl.
Hanfodion Arferion Pobl

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd aelodau’r cwrs yn gymwys i fod yn Aelod Cyswllt y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu.


Nid oes unrhyw arholiadau.

Caiff pob uned ei hasesu trwy amrywiaeth o dasgau asesu sy’n cynnwys aseiniadau, astudiaethau achos, dadansoddi ystadegau a gweithgareddau ymarferol. Bydd disgwyl i aelodau’r cwrs asesu eu datblygiad eu hunain a chynnal Cofnod Dysgu a gaiff ei gyflwyno a’i adolygu.
Mae’r cymhwyster yn rhoi cyfle i aelodau’r cwrs ymgyfarwyddo ag ystod eang o wybodaeth berthnasol ac arbenigedd mewn Arferion Pobl. Mae’r cwrs yn addas i bobl sydd:

● yn astudio, yn dyheu am neu’n cychwyn ar yrfa mewn Arferion Pobl.
● eisoes yn gweithio mewn rôl cefnogi Arferion Pobl ac eisiau datblygu gwybodaeth ehangach o’r maes er mwyn darparu gwerth uniongyrchol, tymor byr ar gyfer eu sefydliad.
● eisiau datblygu’r wybodaeth arbenigol, sgiliau a dealltwriaeth sydd eu hangen i fod yn weithwyr proffesiynol.
● perchnogion neu reolwyr busnesau lle mae angen gwybodaeth sylfaenol arferion pobl.
Cymwysterau Diploma CIPD mewn Rheoli Pobl neu Ddysgu a Datblygu Sefydliadol, neu gymhwyster arall yn y gweithle y mae QCF wedi’i gymeradwyo.
Ffi’r rhaglen sylfaen yw £2,100

Yn ogystal, mae’n rhaid i aelodau’r cwrs danysgrifio i aelodaeth CIPD sy’n costio oddeutu £130 yn y flwyddyn gyfredol (yn daladwy yn uniongyrchol i CIPD) – rhoddir manylion am sut i gael aelodaeth myfyrwyr ar ddechrau’r cwrs.

Argymhellir gwerslyfr a fydd yn costio oddeutu £35.00 (neu £30 fel e-lyfr).

Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael fel Prentisiaeth wedi’i ariannu’n llawn
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?