Diploma Lefel 3 mewn Celfyddydau Perfformio
Trosolwg o’r Cwrs
Gallwch astudio ar gyfer y Diploma Lefel 3 naill ai fel Diploma un flwyddyn neu fel Diploma Estynedig dwy flynedd lawn. Mae'r cwrs yn heriol, yn werth chweil ac yn bleserus. Mae’n cynnig profiad gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb brwd a dawn ym maes y pwnc.
Mae’r Diploma Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio wedi ei lunio i roi’r wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth rydych chi eu hangen i symud ymlaen i astudio ar lefel gradd a gwaith yn sector y celfyddydau perfformio. Mae’n rhoi’r cyfle i’r rhai sydd ȃ diddordebau yn y celfyddydau perfformio i archwilio, datblygu a phrofi eu creadigrwydd gyda strwythur cymhwyster sy’n ysgogol a heriol. Mae hefyd yn darparu cymorth wrth symud o astudio cyffredinol i astudio arbenigol.
Mae’r cwrs yn cynnwys amrywiaeth o unedau a byddwch yn meithrin sgiliau trwy ystod o weithgareddau i’ch galluogi i gyflawni’r canlyniad gorau un. Byddwch yn gweithio mewn ystod eang o ddisgyblaethau perfformio ac yn meithrin sgiliau fel Dawnsio, Drama, Canu a Theatr Gerdd. Bydd cyfleoedd i chi weithio gydag ymarferwyr proffesiynol wrth eu gwaith, a byddwch yn cael cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol a chyd-destunol sy’n cael eu hategu drwy ymweliadau addysgol a dosbarthiadau meistr.
Bydd eich rhaglen ddysgu yn cynnwys nifer o gymwysterau, gan gynnwys Bagloriaeth Cymru. Mae Coleg Cambria wedi’i ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen i waith neu addysg uwch. Felly, mae pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn darparu’r cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at safon lefel 2, ac yn ddelfrydol, at radd C TGAU, os na chawsoch chi hynny yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon ar gyfer cael swyddi a’ch galluogi I symud ymlaen I addysg uwch.
Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill y canlynol UAL Lefel 3 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Er mwyn ennill y cymhwyster Diploma (blwyddyn 1) rhaid i chi basio wyth uned yn llwyddiannus. Prosiect creadigol cydweithredol yw uned 8, sy’n eich galluogi i arddangos yr hyn rydych wedi’u dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Caiff yr uned hon ei raddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth a bydd yn pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster.
Er mwyn llwyddo i ennill y cymhwyster Diploma Estynedig (blwyddyn 2), rhaid i chi basio 12 uned yn llwyddiannus gan gynnwys unedau 1-8 o’r Diploma yn ogystal ag Unedau 9-12. Mae uned 12, sy’n brosiect estynedig, yn eich galluogi i arddangos yr hyn rydych wedi’u dysgu wrth gwblhau’r unedau eraill. Caiff yr uned hon ei raddio fel Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth a bydd yn pennu’r radd gyffredinol ar gyfer y cymhwyster ac asesir yn fewnol ac yn allanol.

5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf) neu, i ddysgwyr dilyniant, cwblhau’r cymhwyster Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformio yn llwyddiannus.
Bydd ymgeiswyr yn ymgymryd â gweithdy mynediad, y mae’n rhaid iddyn nhw fynd iddo a’i gwblhau’n llwyddiannus. Mae gweithdai mynediad wedi’u trefnu ar gyfer Mehefin a Medi, bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei rhannu yn ystod y broses gwneud cais.
Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.

Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth yn niwydiannau’r Celfyddydau Perfformio, a gwneud cais ar gyfer Prifysgolion ac Ysgolion Dawns a Drama a gydnabyddir yn genedlaethol, i gyrsiau fel Actio, Dawnsio neu Theatr Gerdd.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Lefel 1 mewn Cerddoriaeth a’r Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
diploma
Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu Theatr Cefn Llwyfan
Diploma Lefel 3 mewn Celfyddydau Cynhyrchu