Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys nifer o unedau gwahano lle byddwch chi'n meithrin sgiliau i'ch galluogi i gyflawni'r cymhwyster. Byddwch yn gwneud hyn trwy nifer o weithgareddau fel:

Perfformio steiliau cerddoriaeth poblogaidd mewn band/ensemble
Perfformiad unigol a grŵp a Thechnegau Ymarfer
Technegau Cyfansoddi Cerddoriaeth
Theori Cerddoriaeth Sylfaenol/Canolradd
Cydweithio â dysgwyr eraill ar brosiectau creadigol
Sgiliau Ymchwilio
Paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiant Cerddoriaeth

Bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn digwyddiadau byw a pherfformiadau yn yr ardal leol, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymweliadau addysgol i gynorthwyo eich astudiaethau.

Nod y cwrs hwn yw meithrin eich sgiliau mewn ystod eang o berfformiadau cerddoriaeth ac arferion technolegol sy’n berthnasol i’r diwydiant.

Bydd eich rhaglen ddysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo i symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C ar lefel TGAU, oni bai eich bod wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd hefyd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch.
Mae dull asesu’r cwrs hwn yn seiliedig ar waith cwrs / portffolio ac ni fydd yn ofynnol i chi sefyll arholiadau ffurfiol. Mae unedau crynodol yn cael eu graddio’n llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ac yn cael eu hasesu’n fewnol ac yn allanol.
Bydd angen i chi gyflawni gradd lwyddo o leiaf ym mhob uned i gymhwyso ar gyfer gradd cymhwyster cyffredinol.
4 TGAU gradd D/ 3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu ar gyfer myfyrwyr dilyniant, bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Cerddoriaeth yn llwyddiannus.

Hyfedredd sylfaenol wrth chwarae o leiaf un offeryn cerdd (mae lleisiau / canu hefyd yn cael eu hystyried yn offeryn cerdd).

Yn dilyn cyflwyno cais am y cwrs hwn, bydd gofyn i ddarpar ddysgwyr Lefel 2 hefyd gymryd rhan mewn prosiect mynediad ‘rhagflas’ byr, lle byddant yn cael cyfle i arddangos eu sgiliau offerynnol neu sgiliau cynhyrchu ymarferol ynghyd â’u gwaith ysgrifenedig. Cafodd y prosiect mynediad ‘rhagflas’ hwn ei lunio i gael amcan o ba mor addas yw dysgwr ar gyfer y cwrs ac i helpu dysgwyr i benderfynu ai’r cwrs yw’r dewis cywir i chi.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn rhoi gwerth ar Ddiplomâu Lefel 2 ac mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer gweithio yn y diwydiannau Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio a diwydiannau ehangach.

Os hoffech chi barhau a symud ymlaen gyda’ch astudiaethau ar ôl ennill Diploma Lefel 2, gallwch chi gofrestru ar gymhwyster Lefel 3 mewn pwnc tebyg fel Perfformio Cerddoriaeth, Peirianneg Sain, Celfyddydau Perfformio neu Gelfyddydau Cynhyrchu.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?