UAL Lefel 2 Diploma mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio wedi’i ddylunio i roi’r sgiliau, y wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen arnoch chi i symud ymlaen i astudio ac i hyfforddi mewn ystod o bynciau Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu, gan gynnwys Actio, Canu, Dawnsio a Theatr Gerdd.

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i lunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb yn y Celfyddydau Perfformio. Bydd yn eich paratoi chi ar gyfer astudiaeth bellach ar Lefel 3 a gyrfa bosibl yn y diwydiant Celfyddydau Perfformio.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau unigol a grŵp. Byddwch chi’n cael eich cyflwyno i amrywiaeth o weithgareddau sy'n angenrheidiol ar gyfer creu a chyflawni perfformiad, gan gynnwys sgiliau actio, canu a thechnegau symud. Yn ystod y flwyddyn, bydd cyfleoedd i gymryd rhan mewn perfformiadau cyhoeddus. Mae gwaith tîm yn chwarae rhan hanfodol o’r cwrs a byddwch chi’n creu deunydd i’w berfformio fel rhan o waith grŵp. Byddwch chi’n cael y cyfle i gydweithio â gweithwyr proffesiynol a chymryd rhan mewn gweithgareddau cyd-destunol a diwylliannol a fydd yn cael eu cefnogi trwy ymweliadau addysgol.

Bydd eich rhaglen ddysgu’n cynnwys nifer o gymwysterau. Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i’ch cynorthwyo chi i symud ymlaen at waith neu addysg uwch. Felly, bydd pob cwrs yng Ngholeg Cambria yn rhoi cyfle i chi feithrin eich sgiliau Saesneg a Mathemateg hyd at lefel 2 ac yn ddelfrydol hyd at gyflawni Gradd C ar lefel TGAU, oni bai eich bod chi wedi cyflawni hynny eisoes yn yr ysgol/coleg. Bydd hyn yn gwella eich rhagolygon yn y farchnad swyddi a bydd yn eich galluogi i symud ymlaen i addysg uwch.

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus yn ennill Diploma Lefel 2 UAL mewn Celfyddydau Perfformio.
I gyflawni’r cymhwyster hwn, mae’n rhaid i chi lwyddo mewn 9 uned. Mae’r uned olaf, Cynhyrchu a Pherfformio i Gynulleidfa, yn eich galluogi chi i ddangos popeth yr ydych chi wedi’i ddysgu trwy gwblhau’r unedau eraill.

Rhoddir graddau llwyddo, teilyngdod neu ragoriaeth ar gyfer yr uned hon, ac mae’n pennu’r radd gyfansawdd ar gyfer y cymhwyster a chaiff ei hasesu’n fewnol ac yn allanol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg/Cymraeg (Iaith Gyntaf), neu ar gyfer myfyrwyr dilyniant, rhaid eich bod chi bod wedi cwblhau cymhwyster Lefel 1 mewn Cerddoriaeth neu Berfformio yn llwyddiannus.

Cyn cael eu derbyn ar y cwrs, mae croeso i bob ymgeisydd gymryd rhan mewn gweithdy clyweliad. Mae hwn yn gyfle i ddysgwyr cyfarfod â’u tiwtoriaid, ac yn gyfle i diwtoriaid asesu set sgiliau myfyrwyr a’u gwybodaeth gyfredol o fewn Celfyddydau Perfformio.

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs ar lefel uwch.
Mae cyflogwyr yn gweld gwerth mewn cwblhau Diploma Lefel 2, mae’r cwrs yn eich paratoi chi ar gyfer cyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol. Os ydych chi am barhau a symud ymlaen gyda’ch astudiaethau’r flwyddyn wedyn, gallwch chi gofrestru ar gymhwyster Lefel 3 yn y Celfyddydau Perfformio yn amodol ar gwblhau’r cwrs Lefel 2 yn llwyddiannus.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?