Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r Rhaglen Cyn-brentisiaeth Lefel 2 (Uwch) yn rhaglen 5 diwrnod yr wythnos, sy'n gwrs sy’n seiliedig ar theori a gwaith ymarferol wedi'i anelu at lwybrau Crefft a Chynnal a Chadw. Mae pwyslais mawr ar yr elfen ymarferol a bydd yn cyflwyno ystod eang o dechnegau Peirianneg o fewn Peirianneg Fecanyddol. Mae dysgwyr ar y rhaglen hon yn dilyn yr un llwybr â Phrentis Lefel 2 a byddant yn ennill y cymwysterau sydd eu hangen i fynd i'r diwydiant yn uniongyrchol ar Lefel 3 (Rhaglen Rhyddhau am y Diwrnod).

Tystysgrif / Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Peirianneg (2850-20)
(Unedau Enghreifftiol)

2850-201 Gweithio mewn Peirianneg
2850-202 Egwyddorion Technoleg Peirianneg
2850-205 Cydrannau Peiriant gan ddefnyddio Technegau Turnio
2850-207 Defnyddio Prosesau Gweithgynhyrchu Gyda Chymorth Cyfrifiadur
2850-208 Egwyddorion Technoleg Cynnal a Chadw
2850-209 Cydosod a Chynnal a Chadw Systemau Pŵer Hylif


Diploma NVQ City & Guilds Lefel 2 mewn Cyflawni Gweithrediadau Peirianneg (7682-20)
(Unedau Enghreifftiol)

7682-201 Gweithio’n ddiogel mewn amgylchedd peirianneg
7682-202 Ymgymryd â gweithgarwch Peirianneg yn effeithlon ac effeithiol.
7682-203 Defnyddio a chyfathrebu gwybodaeth dechnegol
7682-205 Cynhyrchu Cydrannau gan Ddefnyddio Technegau Ffitio â Llaw
7682-211 Paratoi a defnyddio turniau ar gyfer gweithrediadau turnio
7682-214 Paratoi a phrofi rhaglenni offer peiriannau CNC
7682-220 Cydosod a Phrofi Systemau Pŵer Hylif


Datblygu Sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Llythrennedd Digidol.

Profiad Gwaith Perthnasol.

Mae'r cwrs cyn-brentisiaeth hon sy’n seiliedig ar theori a gwaith ymarferol yn cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i weithio yn y sector Peirianneg.
Mae’r cwrs yn gofyn am asesu aseiniadau yn y coleg yn barhaus a byddant yn cael eu casglu fel tystiolaeth portffolio i fodloni gofynion y corff dyfarnu.

Yn ogystal, bydd arholiadau wedi’u gosod a’u marcio yn allanol yn cael eu trefnu ar adegau allweddol trwy gydol y cwrs.

Bydd Sgiliau Hanfodol yn cael eu hasesu’n gyson yn ystod y cwrs.
Fel sy’n ofynnol gan Gyngor Sgiliau’r Sector.

4 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Mathemateg, Iaith Saesneg neu Gymraeg (Iaith Gyntaf) neu gwblhau Cymhwyster Peirianneg Sylfaen Llawn Amser / Lefel 1 perthnasol, Sgiliau Hanfodol cysylltiedig a/neu TGAU Mathemateg a Saesneg C/4

Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych chi, ac fe allai eich galluogi i symud ymlaen i gwrs lefel uwch.
Bydd y cymhwyster yn gallu meithrin y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau eich taith tuag at Brentisiaeth. Mae sawl cyflogwr yn cydnabod y sgiliau, y wybodaeth a’r sgiliau ymddygiadol y byddwch yn eu meithrin wrth gyflawni’r rhaglen hon, gan arwain at waith.

Mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn y diwydiant Peirianneg Fecanyddol / Gweithgynhyrchu bellach yn gweld gwerth mewn Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQs) perthnasol.
Efallai y bydd cyfleoedd yn bodoli i gael cyflogaeth hyfforddeion yn unrhyw un o’r disgyblaethau masnach ganlynol:
● Ffitiwr
● Peiriannwr
● Peiriannwr CNC
● Mecanyddol / Cydosod
● Niwmateg

Bydd dysgwyr sy’n cael gwaith yn parhau i astudio cymwysterau pellach fel rhan o brentisiaeth.
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.

Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?