Llwybr (Interniaethau â Chymorth) - Llwybr 4

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LP01362
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn o hyd. Mae’n gwrs llawn amser, 3 diwrnod yr wythnos.
Amseroedd – 9.30am – 4.30pm (3.45pm ar ddydd Gwener).
Adran
Sgiliau Byw’n Annibynnol
Dyddiad Dechrau
03 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r rhaglen interniaeth â chymorth yn gwrs blwyddyn o hyd a ddatblygwyd i gefnogi dysgwyr i gyflawni cyflogaeth gynaliadwy â thâl trwy gyfuno dysgu yn y gweithle â rhaglen astudio bersonol. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar roi’r sgiliau a'r cymwysterau perthnasol sydd eu hangen ar ddysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn eu dewis faes.

Mae sgiliau cyfathrebu, rhifedd a llythrennedd digidol yn parhau i fod yn rhan allweddol o ddysgu, gyda chyfleoedd i ddatblygu ac ymarfer y sgiliau hyn yn y gweithle.

Nod yr interniaethau â chymorth ydy paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth â thâl trwy:

*Eu cefnogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr i gyflogwyr.
*Eu galluogi i ddangos eu gwerth yn y gweithle.
*Datblygu hyder yn eu gallu eu hunain i berfformio'n llwyddiannus yn y gwaith.

Mae cynllunio ar sail nod yn allweddol i bob dysgwr.

Bydd holl weithgareddau’r rhaglen hon yn cael eu cynllunio i roi'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth berthnasol i ddysgwyr ar gyfer eu taith unigol.

Mae angen cyflwyno ceisiadau am raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol erbyn diwedd mis Ebrill er mwyn i ni allu cynnig proses pontio trylwyr a helaeth i'r coleg i ddysgwyr.

Bydd dysgwyr angen mynychu diwrnod asesu gyda'r Swyddog Pontio cyn dechrau'r rhaglen.
Fel arfer bydd dysgwyr rhwng 16 a 25 oed ac yn dod o amrywiaeth o gefndiroedd. Bydd angen cymorth sylweddol ar bob un i’w galluogi i gael cyflogaeth â thâl yn llwyddiannus.

Bydd angen i ddysgwyr fod ag agwedd aeddfed, yn barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau, ac wedi ymrwymo i ddod o hyd i waith. Bydd llawer o’r dysgwyr wedi symud ymlaen o Lwybr 2 neu 3 a’r Llwybr hwn fydd y ‘flwyddyn olaf’ ar gyfer dysgwyr sydd â’r potensial i symud ymlaen i gyflogaeth â thâl.

Bydd gan ddysgwyr sy’n addas ar gyfer y cwrs hwn gynllun addysg (CDU neu Gynllun Gofal Iechyd Addysg) sy’n nodi eu hanghenion dysgu ychwanegol.

Bydd angen i ddysgwyr allu teithio’n annibynnol i leoliadau gwaith.

Mae angen cyflwyno ceisiadau am raglenni Sgiliau Byw’n Annibynnol erbyn diwedd mis Ebrill er mwyn i ni allu cynnig proses pontio trylwyr a helaeth i’r coleg i ddysgwyr.

Bydd dysgwyr angen mynychu diwrnod asesu gyda’r Swyddog Pontio cyn dechrau’r rhaglen.
Mae gan bob myfyriwr Gynllun Dysgu Unigol (CDU) sy’n cofnodi eu nodau a’u targedau unigol. Bydd myfyrwyr yn derbyn cymorth un i un rheolaidd gan eu tiwtor personol a swyddog pontio i adolygu eu cynnydd a chymorth yn y lleoliad. Mae targedau unigol yn sicrhau bod myfyrwyr yn symud ymlaen i nod tymor hir. Bydd y myfyrwyr yn gallu cyflawni cymwysterau neu unedau perthnasol hefyd wrth gyflawni’r rhaglen.
Y gobaith yw y bydd yr interniaeth yn arwain at waith llawn amser â thâl.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?