Diploma Lefel 1 mewn Gofal
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad i ofal anifeiliaid ac yn canolbwyntio ar y gwaith ymarferol, sy’n cael ei gefnogi gan sesiynau dosbarth ar sail theori. Nod y cwrs yw ymestyn ac annog datblygiad sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad er mwyn gweithio tuag at gael gwaith sy’n ymwneud ag anifeiliaid. Mae’r cwrs hwn wedi’i lunio i ddysgwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad o ofal anifeiliaid. I'r rhai hynny sydd â rhywfaint o brofiad, bydd cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth ymarferol a theori ymhellach. Byddwch yn helpu i ofalu am yr ystod eang o anifeiliaid yn y coleg.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 60 awr o brofiad gwaith fel grŵp mewn lleoliad wedi’i drefnu.
Bydd y pynciau y byddwch yn eu hastudio yn cynnwys iechyd a llesiant anifeiliaid, trin anifeiliaid, bywyd gwyllt a chadwraeth, bwydo a rhoi dŵr, a llety i anifeiliaid.
Bydd y Canolfannau Gofal Anifeiliaid a Bridiau Prin rhagorol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, moch cwta, llygod mawr, llygod, ieir, hwyaid, ffuredau, defaid, geifr, moch a physgod. Byddwch hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi yn eich llwybr gyrfa dewisol. Bydd dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys darlithoedd, gwaith unigol ac mewn grwpiau, gwaith ymarferol yn ogystal â defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.
Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pan fyddant yn barod, byddant yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnig llawer o dasgau ymarferol a fydd hefyd yn helpu i ddatblygu eich sgiliau Mathemateg, Saesneg a Llythrennedd Digidol.
Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy 2 brawf ar-lein, ac amrywiaeth o asesiadau dan reolaeth a fydd yn cynnwys ystod o dasgau, gan gynnwys gweithgareddau theori ac ymarferol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn nifer o asesiadau ymarfer anffurfiol trwy gydol y rhaglen, i’ch helpu i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.
Byddwch hefyd yn treulio cyfnod ar leoliad profiad gwaith yn y diwydiant Gofal Anifeiliaid, a allai fod yn gyfuniad o leoliad allanol yn ogystal ag amgylchedd gwaith realistig yn y coleg.
Efallai bydd dysgu Saesneg a Mathemateg yn cynnwys sefyll arholiadau.

4 TGAU gradd E/2 neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf).
I ddysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen i’r cwrs L1 hwn o gwrs lefel mynediad, mae’n rhaid eich bod wedi cyflawni eich cymhwyster M3, wedi symud ymlaen mewn mathemateg a Saesneg ac wedi cyflawni’r holl dargedau yn eich Cynllun Dysgu Unigol.
Yng Ngholeg Cambria, byddem ni’n eich annog chi i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich canlyniadau, y mwyaf o ddewisiadau fydd gennych chi, a gallai hynny arwain at ddechrau cwrs lefel uwch.

Symud i gwrs Lefel 2 mewn Gofal Anifeiliaid Technegol yn amodol ar fodloni’r meini prawf.
Gall dysgwyr sy’n dymuno mynd i gyflogaeth ddod o hyd i waith fel cymhorthydd llety cŵn a chathod, cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes, neu gynorthwyydd twtio cŵn.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.