Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LP01506 |
Lleoliad | Llaneurgain |
Hyd | Llawn Amser, Dyma gwrs blwyddyn lawn amser, 3 diwrnod yr wythnos |
Adran | Gofal a Rheolaeth Anifeiliaid, Dysgu Sylfaen |
Dyddiad Dechrau | 03 Sep 2025 |
Dyddiad gorffen | 19 Jun 2026 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad sylfaenol i ofal anifeiliaid ac yn canolbwyntio ar y gwaith ymarferol, sy’n cael ei gefnogi gan sesiynau dosbarth ar sail theori. Nod y cwrs yw ymestyn ac annog datblygiad sgiliau, gwybodaeth, dealltwriaeth a phrofiad er mwyn gweithio tuag at gael gwaith sy’n ymwneud ag anifeiliaid. Mae’r rhaglen Mynediad 3 wedi’i hanelu at ddysgwyr sydd ag ychydig neu ddim profiad o ofal anifeiliaid. I'r rhai hynny sydd â rhywfaint o brofiad, bydd cyfleoedd i ddatblygu ac ehangu eich gwybodaeth ymarferol a theori ymhellach. Byddwch chi’n helpu i ofalu am yr ystod eang o anifeiliaid yn y coleg.
Bydd y pynciau y byddwch chi’n eu hastudio yn cynnwys iechyd a llesiant anifeiliaid, trin anifeiliaid, bwydo a rhoi dŵr, a llety i anifeiliaid.
Bydd profiad gwaith, ymweliadau a siaradwyr gwadd hefyd yn rhan annatod o'r rhaglen.
Bydd yr adran Gofal Anifeiliaid a’r Ganolfan Bridiau Prin rhagorol yn rhoi cyfle i chi feithrin sgiliau ymarferol gwerthfawr, gyda dros gant o rywogaethau anifeiliaid, gan gynnwys cwningod, moch cwta, llygod mawr, llygod, ieir, hwyaid, ffuredau, defaid, geifr, moch a physgod. Byddwch chi hefyd yn dysgu ystod eang o wybodaeth sylfaenol. Bydd y cyfuniad hwn yn rhoi mantais i chi yn eich llwybr gyrfa ddewisol. Bydd dysgu mor hwyliog â phosibl, a byddwch yn dysgu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gweithgareddau yn y dosbarth, gwaith unigol ac mewn grwpiau, gwaith ymarferol yn ogystal â defnyddio ystod o dechnoleg dysgu fodern.
Bydd dysgwyr yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Pan fyddant yn barod, byddant yn cael cyfle i ymgymryd â chymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.
Bydd dysgwyr yn cael Anogwr Cynnydd a fydd yn eu helpu trwy gydol eu hamser ar y rhaglen. Bydd yr anogwr yn sicrhau bod unrhyw gymorth Anghenion Dysgu Ychwanegol ar waith cyn i ddysgwyr ddechrau ar eu cwrs. Bydd hefyd yn sicrhau bod unrhyw anghenion newydd am gymorth a fyddai’n gallu ymddangos yn cael eu cynnwys yn eu rhaglen i helpu i’r dysgwyr lwyddo. Cefnogir y cwrs yn llawn i fodloni anghenion unigol a gwahaniaethau dysgu.

Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at ddysgwyr 16-18 oed
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol yn ofynnol ond byddem yn eich annog i wneud eich gorau glas yn eich arholiadau.
Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi i wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei asesu trwy ystod o dasgau gan gynnwys gwaith theori a gweithgareddau ymarferol
Byddwch chi’n cymryd rhan mewn nifer o asesiadau ymarfer anffurfiol trwy gydol y rhaglen, i’ch helpu chi i ddysgu cynnwys y cwrs yn effeithiol.

Symud i gwrs Lefel 1 mewn Gofal Anifeiliaid (technegol) yn amodol ar fodloni’r meini prawf.
Symud i gwrs Lefel 1 Cyflwyniad i Ofal Anifeiliaid yn amodol ar fodloni’r meini prawf.
Gall dysgwyr sy’n dymuno mynd i gyflogaeth ddod o hyd i waith fel cymhorthydd llety cŵn a chathod, cynorthwyydd siop anifeiliaid anwes, neu gynorthwyydd twtio cŵn.

Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr OfferBarod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025
17:00
Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
20/03/2025