Astudiaethau Crefyddol (Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd) - Safon Uwch

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00041
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cwrs yw datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth o Athroniaeth Crefydd, credoau Crefyddol a dysgeidiaeth o Gristnogaeth a Chrefydd a Moeseg. Nod y cwrs yw datblygu sgiliau academaidd a chyfathrebu sy'n ddefnyddiol ar gyfer astudio yn y brifysgol a'r farchnad swyddi ehangach.

Blwyddyn 1 (40%)
Uned 1 - Cyflwyniad i Gristnogaeth: astudiaeth o ffigyrau crefyddol a thestunau cysegredig, cysyniadau crefyddol, bywyd crefyddol ac ymarferion crefyddol

Uned 2 -
Adran A - Cyflwyniad i Athroniaeth Crefydd: astudiaeth o destunau dadlau am fodolaeth Duw, problemau drygioni a phrofiadau crefyddol.

Adran B - Crefydd a Moeseg: astudiaeth o feddwl a damcaniaethau moesegol sy’n berthnasol i faterion fel erthyliad, arbrofi gydag anifeiliaid a pherthnasoedd cyfunrywiol, ymhlith materion eraill.

Blwyddyn 2 (60%)
Uned 3 - Astudiaeth o Gristnogaeth: rhagor o astudio ffigyrau crefyddol a thestunau cysegredig, astudiaeth o ddatblygiadau hanesyddol arwyddocaol mewn meddwl crefyddol a datblygu cymdeithasol arwyddocaol mewn meddwl ac arferion crefyddol a siapio hunaniaeth grefyddol.

Uned 4 - Crefydd a Moeseg: Astudiaeth o iaith a meddwl moesegol, archwilio I ddatblygiad damcaniaethau fel Cyfranoliaeth a datblygiadau cyfoes mewn damcaniaeth foesegol, dadleuon ynghylch ewyllys rhydd yn erbyn penderfyniaeth.

Uned 5 - Athroniaeth Crefydd: Astudiaeth o’r heriau sydd I gred grefyddol - fel Anffyddiaeth Newydd a datblygiadau mewn Seicoleg I egluro crefydd, datblygiadau pellach o brofiad crefyddol ac archwiliad i’r problemau gydag iaith grefyddol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Iaith Saesneg / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Mae’r asesu mewnol yn cynnwys ymchwil, profion / cwisiau rheolaidd a chwestiynau yn seiliedig ar arholiadau, gyda ffug arholiadau yn nodwedd allweddol.

Caiff y cymhwyster ei asesu’n allanol trwy arholiadau (nid oes gwaith cwrs), gydag arholiadau UG ym mis Mai’r flwyddyn gyntaf, ac arholiadau U2 ym mis Mehefin yr ail flwyddyn. Mae’r arholiadau’n gofyn am draethodau strwythuredig ffurfiol sy’n gofyn am wybodaeth am y deunydd a’i ddadansoddi.
Mae Astudiaethau Crefyddol yn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr allu ymchwilio, gwerthuso, strwythuro a chyflwyno gwybodaeth a syniadau. Caiff sgiliau ysgrifennu traethodau eu datblygu gyda phwyslais cryf ar ddadansoddi a meddwl yn feirniadol. Bydd myfyrwyr hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau a dadleuon a meithrin eu sgiliau cyfathrebu.

Mae’r sgiliau hyn yn gyffredin i nifer o raddau prifysgol ac mae myfyrwyr wedi mynd ymlaen i astudio amrediad o bynciau ar lefel gradd gan bod y sgiliau a ddatblygir yn cyplysu gyda natur eang y pnwc sy’n cynnwys gwybodaeth ar draws athroniaeth, moeseg, hanes, diwylliant a chrefydd. Mae’r sgiliau a’r wybodaeth eang yma’n paratoi myfyrwyr hefyd ar gyfer amrediad o yrfaoedd fel y Gyfraith, Addysg a swyddi’r Llywodraeth a sefydliadau di-lywodraeth.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?