Seicoleg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA00040
Lleoliad
Iâl
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys Safon Uwch yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
02 Sep 2025
Dyddiad gorffen
20 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae arholiadau 2 uned ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf (Lefel UG) a 2 arall ar ddiwedd yr ail

Blwyddyn 1
Uned 1 - Seicoleg: O’r Gorffennol i’r Presennol.
Diben yr uned hon yw rhoi sylfaen gadarn mewn rhai o elfennau craidd sylfaenol seicoleg trwy astudio 5 ymagwedd seicolegol.

Ar gyfer pob un o’r 5 ymagwedd seicolegol (biolegol, seicodeinamig, ymddygiadol, gwybyddol a chadarnhaol), bydd yn angen I ddysgwyr wneud y canlynol:

● gwybod a deall rhagdybiaethau pob ymagwedd
● cymhwyso'r rhagdybiaethau I egluro ffurfio perthynas
● gwybod a deall sut y gellir defnyddio'r ymagwedd mewn therapi (un therapi I bob ymagwedd), a phrif gydrannau'r
therapi
● gwerthuso'r therapi (gan gynnwys ei effeithiolrwydd a'I ystyriaethau moesegol)
● gwerthuso'r ymagwedd (gan gynnwys cryfderau, gwendidau a chymhariaeth â'r pedwar dull arall)
● gwybod, deall a llunio barn ar ddarn clasurol o dystiolaeth (gan gynnwys methodoleg, gweithdrefnau, canfyddiadau,
casgliadau a materion moesegol a goblygiadau cymdeithasol).

Uned 2 - Seicoleg: Defnyddio Cysyniadau Seicolegol.
Adran A: Dadleuon Cyfoes

Mae archwilio pum dadl gyfoes yn rhoi cyfle I ymchwilio’n annibynnol I feysydd y mae seicoleg wedi dylanwadu arnynt. Dylid ystyried dwy ochr y ddadl o safbwynt seicolegol. Gofynnir I ddysgwyr archwilio'r dadleuon gan ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r pum ymagwedd yn Uned 1. Y 5 dadl I'w hymchwilio yw
● Moeseg niwrowyddoniaeth
● Y fam fel y prif ofalwr
● Defnyddio technegau cyflyru I reoli ymddygiad plant
● Dibynadwyedd tystiolaeth llygad-dyst (gan gynnwys plant)
● Rôl seicoleg gadarnhaol yng nghymdeithas heddiw

Adran B: Egwyddorion Ymchwilio.
Ymchwil seicolegol yw canolbwynt yr adran hon, o'r camau cynllunio cychwynnol hyd at gam olaf y dadansoddiad a'r gwerthuso. Er mwyn rhoi cyd-destun priodol ar gyfer yr addysgu, dylid astudio dau ddarn o ymchwil o waith seicolegwyr cymdeithasol a datblygiadol.

● “Social Psychology: Milgram, S. (1963). Behavioural study of Obedience.”
● “Developmental Psychology: Kohlberg, L. (1968). The child as a moral philosopher.”

Adran C: Cymhwyso dulliau ymchwilio I senario anghyfarwydd
Mae'r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol I ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil I senario ymchwil anghyfarwydd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil
seicolegol.

Blwyddyn 2
Uned 3 – Seicoleg: Goblygiadau yn y Byd Go Iawn.
Adran A – Astudio Ymddygiadau.
Archwilio 3 ymddygiad o 6; Ymddygiadau caethiwus, Ymddygiadau ar y sbectrwm awtistiaeth, Ymddygiadau bwlio, Ymddygiadau troseddol, Sgitsoffrenia, Straen.

Adran B – Pynciau Llosg.
Mae hon yn elfen synoptig o'r cwrs; Astudir 5 dadl sy'n rhychwantu ymchwil seicolegol, a bydd gofyn I ddysgwyr ddefnyddio deunydd o bob rhan o'r cwrs I ddadlau. Y dadleuon yw:
● Costau moesegol cynnal ymchwil
● Anifeiliaid nad ydynt yn ddynol
● Statws gwyddonol
● Rhywiaeth
● Rhagfarn ddiwylliannol

Uned 4 – Seicoleg: Dulliau Ymchwil Cymhwysol.
Adran A: Ymchwiliad Personol.
Er mwyn sicrhau gwir werthfawrogiad o fethodolegau mewn seicoleg, disgwylir I'r dysgwyr ennill profiad uniongyrchol o ddau ddull ymchwil trwy ddylunio a chynnal dau ymchwiliad yn ystod y flwyddyn. Mae teitlau'r ymchwiliadau hyn yn newid bob blwyddyn, a bydd y bwrdd arholi yn eu pennu. Bydd gofyn I ddysgwyr ymateb I gwestiynau sy'n ymwneud â'r ymchwiliadau hyn yn yr asesiad. Anogir dysgwyr I ddefnyddio TGCh wrth ymchwilio, dylunio, dadansoddi a chyflwyno eu hymchwiliad.

Adran B: Senarios Newydd
Ail agwedd y gydran hon yw I ddysgwyr gymhwyso eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ddulliau ymchwil I senarios ymchwil anghyfarwdd, gan lunio barnau ar fanylion ymchwil seicolegol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch arnoch chi gan gynnwys Iaith Saesneg/ Cymraeg Iaith Gyntaf a Mathemateg, a bodloni’r meini prawf canlynol:

-TGAU gwyddoniaeth gradd C/4 neu uwch.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
CBAC yw’r Bwrdd Arholi. Bydd gofyn i’r myfyrwyr sefyll arholiad ffug mewnol ar ddiwedd pob uned. Cafodd yr arholiadau ymarfer hyn eu llunio fel eu bod mor debyg i’r arholiadau allanol ag y bo modd.

Arholiadau allanol:
Unedau 1 – 2 (UG) – Arholir Unedau 1 a 2 ym mis Mai cyntaf y cwrs – 1 awr 30 munud yr un.

Uned 3 (A2) – ail Fai’r cwrs – arholiad 2 awr 30 munud.

Uned 4 (A2) – ail Fai’r cwrs – 1 awr 30 munud.
Mae cyflogwyr y rhan fwyaf o feysydd yn cydnabod Seicoleg fel pwnc sy’n paratoi ac yn aeddfedu pobl ar gyfer bron unrhyw fath o waith. Mae lefel UG yn dangos dealltwriaeth o bobl a thrwy gwblhau’r Safon Uwch, dylai’r myfyriwr fod wedi meithrin y gallu i ddadansoddi’n feirniadol wrth ymdrin â ffenomenau dynol.

Ar lefel gradd, gall Seicoleg agor y drws i nifer o yrfaoedd, er enghraifft: Personél, Rheoli, Proffesiynau Gofal ac Addysgu. Mae gradd dda yn gallu arwain at fod yn Seicolegydd Siartredig mewn meysydd clinigol, addysgol, diwydiannol, galwedigaethol neu fforensig.
Efallai bydd angen prynu offer / a neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?