Tystysgrif Dechnegol lefel 2 mewn Amaethyddiaeth

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Amaethyddiaeth yn sector eang a heriol, ac o ganlyniad I hynny cafodd y cwrs ei lunio I ddatblygu ystod eang o wybodaeth mewn nifer o sectorau. Mae ein cyrsiau amaethyddiaeth yn rhoi dealltwriaeth I chi am systemau cynhyrchu amaethyddol modern a’r egwyddorion gwyddonol a thechnolegol sy’n sail iddynt.

Cyfleusterau:

- Canolfan adnoddau Amaethyddol
- Fferm fasnachol 970 erw wedi’I chynllunio I arddangos sut I weithredu egwyddorion a chymhwyso’r egwyddorion gwyddonol, technolegol a busnes I amaethyddiaeth fasnachol a chynhyrchu bwyd.

Ble fydda i’n astudio?
Byddwch yn astudio yn ein canolfan adnoddau amaethyddol pwrpasol ar safle Llysfasi’r coleg. Mae Llysfasi ger Rhuthun, yng ngogledd ddwyrain Cymru.

Mentrau’r Fferm:
Byddwch yn cael defnyddio’n fferm fasnachol 970 erw gyda’I 230 o wartheg godro; mentrau cig eidion a defaid, yn ogystal â chynhyrchu cnydau porthiant .

Pa bynciau fydda i’n eu hastudio?
Mae’r cwrs yn gyfuniad o’r unedau a ganlyn:
● Iechyd a diogelwch ar gyfer diwydiannau’r tir
● Unedau pŵer a gweithredu peiriannau amaethyddol
● Hwsmonaeth cnydau
● Cynhyrchu anifeiliaid fferm
● Cynnal a chadw ystadau fferm
● Ffisioleg planhigion ac anifeiliaid
● Gweithio yn y diwydiant amaethyddol

Pam dewis Amaethyddiaeth yn Llysfasi?
● Perthnasau gweithio cadarn gydag arbenigwyr y diwydiant.
● Meithrin sgiliau mewn gwyddorau anifeiliaid, peiriannau, hwsmonaeth planhigion ac anifeiliaid, cnydau, porfeydd a busnes.
● Cyfleoedd I ennill cymwysterau ychwanegol fel: Trwyddedau Defnyddio Plaladdwyr yn Ddiogel, Telehandler ac ATV.
● Mae profiadau gwaith ymarferol ar ein fferm fasnachol a lleoliadau gwaith diwydiannol yn rhan annatod o’r cwrs, a byddant yn cyfrannu at gyfleoedd cyflogaeth yn y dyfodol.
● Mae gennym gysylltiadau helaeth â busnesau sy’n gysylltiedig ag amaeth a bwyd, ymweliadau allanol a siaradwyr gwadd sy'n cael eu hintegreiddio I'r cwrs.
I ennill y cymhwyster hwn, mae’n rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r asesiadau canlynol yn llwyddiannus:

Un prawf iechyd a diogelwch wedi’I osod a’I farcio’n allanol.
Un arholiad wedi’I osod a’I farcio’n allanol a’I sefyll dan amodau arholiad.
Un aseiniad wedi’I osod yn allanol, ei farcio’n fewnol a’I gymedroli’n allanol.
4 TGAU gradd D/3 neu uwch gan gynnwys Saesneg/Cymraeg (Iaith 1af) a Mathemateg neu Wyddoniaeth, neu gymhwyster Lefel 1.

Yng Ngholeg Cambria byddwn yn eich annog I wneud eich gorau glas yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau a fydd gennych, ac fe allai eich galluogi I symud ymlaen I gwrs lefel uwch.
Symud ymlaen ar ôl y cwrs hwn?
● Cwrs Lefel 3 dwy flynedd yn astudio Amaethyddiaeth, Amaethyddiaeth gyda da byw neu Amaethyddiaeth gyda Mecaneiddio.
● Mae prentisiaethau a hyfforddeiaethau ar gael yn y diwydiant, lle gallwch weithio a pharhau I astudio.
● Hyfforddiant a chyrsiau ychwanegol fel A.I. a thrin traed.

Cyfleoedd gyrfa ar ôl y cwrs hwn:
● Rheolwyr fferm (Gyda Lefel 3)
● Gweithiwyr Ffarm
● Ymgynghorwyr
● Contractwyr
● Arwerthwyr Da byw
● Swyddogion addysgol
● Rhedeg eich busnes eich hun
Bydd angen prynu offer a/neu wisg hanfodol ar gyfer rhai cyrsiau. Edrychwch ar y rhestr offer atodedig i gael rhagor o wybodaeth.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Lawrlwythiadau Defnyddiol
Rhestr Offer

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?