Cemeg - Lefel A

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA01140
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Llawn Amser, Mae’r cynnwys UG yn cael ei addysgu yn y flwyddyn gyntaf o astudio.
Mae’r cynnwys U2 yn cael ei addysgu yn yr ail flwyddyn o astudio.
Adran
Cyrsiau Safon Uwch
Dyddiad Dechrau
01 Sep 2025
Dyddiad gorffen
19 Jun 2026

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Cemeg yn ymwneud ag astudio deunyddiau, eu priodweddau, adweithiau a’u defnyddiau. Mae’r holl fyfyrwyr sy’n astudio Cemeg yng Ngholeg Cambria yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau personol a threfniadaethol trwy ddysgu ac anelu at gyflawni eu potensial academaidd.

Gan fod Cemeg yn wyddoniaeth ymarferol, mae’r cwrs yn cynnwys elfen ymarferol sylweddol ac mae’r gwaith ymarferol a’r theori wedi’u hintegreiddio’n dda. Anogir myfyrwyr i weithio’n annibynnol ac fel rhan o grŵp yn y dosbarthiadau theori ac ymarferol. Cynigir y cyfle i’n myfyrwyr Cemeg gymryd rhan yng nghystadleuaeth Dadansoddwr Ifanc y Gymdeithas Cemeg Frenhinol, gweithdai Spectrosgopi, dosbarthiadau meistr Prifysgol a Chymdeithas Wyddoniaeth Jenkins sy’n gwahodd siaradwyr allanol o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau gwyddonol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs bydd myfyrwyr wedi ennill profiad yn rhyngweithio gydag eraill, yn well am resymu’n rhesymegol ac wedi ennill profiad gwerthfawr mewn dulliau ymchwilio a diogelwch wrth weithio dan amodau labordy.

Mae’r cwrs Cemeg Uwch Gyfrannol / Safon Uwch yn dilyn manyleb CBAC ac yn adeiladu ar yr agweddau a gwmpaswyd yn y cwrs TGAU. Mae’r cwrs Uwch Gyfrannol yn cynnwys dwy uned gydag arholiad ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. Astudir tair uned ychwanegol yn yr ail flwyddyn i gael y cymhwyster Safon Uwch llawn. Mae un o unedau’r ail flwyddyn yn cynnwys arholiad ymarferol. Rhoir trosolwg cryno o gynnwys y cwrs isod.

UNED 1: Iaith Cemeg, strwythur mater ac adweithedd cemegol. Fformiwlâu a hafaliadau, strwythur atomig, cyfrifiadau, bondio, strwythurau solid, dosbarthiad yr elfennau yn y Tabl Cyfnodol, ecwilibria ac adweithiau’n seiliedig ar asid.

UNED 2: Ynni, cyfradd adwaith a chemeg cyfansoddion carbon. Dadansoddi thermogemegol a chinetig, effaith ehangach cemeg yn y gymdeithas, cyfansoddion organig yn cynnwys hydrocarbonau, halogenalcanau, alcoholau ac asidau carbosylig a dulliau dadansoddi offerynnol.

UNED 3: Cemeg ffisegol ac anorganig. Potensial electrod safonol a rhydocs, cemeg bloc-p a bloc-d, newidiadau enthalpi, entropi a dichonoldeb adweithiau, elfennau cyson ecwilibriwm ac ecwilibria’n seiliedig ar asid.

UNED 4: Cemeg organig a dadansoddi cemeg organig. Stereoisomeriaeth, persawrusrwydd, alcoholau a ffenolau, aldehydau a chetonau, asidau carbosylig a deilliadau, aminau, asidau amino, peptidau a phroteinau, synthesis a dadansoddiad organig.

UNED 5: Arholiad ymarferol. Mae’n ofynnol i fyfyrwyr gynnal ffeil drefnus o’u gwaith labordy yn barod ar gyfer asesu’r uned hon.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg iaith / Cymraeg iaith gyntaf a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Mathemateg haen uwch.
– Gradd B/6 neu uwch mewn TGAU Gwyddoniaeth haen uwch yn y math o wyddoniaeth rydych yn dymuno ei hastudio

Rydym yn argymell I fyfyrwyr astudio Safon Uwch mewn Cemeg ochr yn ochr â Safon Uwch mewn Mathemateg a/neu bynciau Gwyddoniaeth eraill.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog I wneud eich gorau yn eich arholiadau. Y gorau fydd eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych, a gall olygu y byddwch yn gallu cyrchu cwrs lefel uwch.
Asesir Unedau 1 a 2 trwy gyfrwng arholiad ysgrifenedig 1½ awr gyda chwestiynau’n sy’n gysylltiedig â phrofiad ymarferol. Bydd y ddwy uned yn cyfrannu’n hafal at y cymhwyster Uwch Gyfrannol ac ar y cyd byddant yn ffurfio 40% o’r cymhwyster Safon Uwch llawn.

Asesir Unedau 3 a 4 trwy gyfrwng arholiad ysgrifenedig 1¾ awr. Bydd y ddwy uned wedi’u cyfuno yn ffurfio 50% y cymhwyster Safon Uwch llawn.
Bydd y papurau ar gyfer Unedau 1-4 yn cynnwys cwestiynau wedi’u seilio ar y gwaith ymarferol penodol a wnaed trwy gydol y cwrs.

Mae Uned 5 wedi’i neilltuo ar gyfer arholiad ymarferol ar ddechrau tymor yr haf sy’n ffurfio 10% o’r cymhwyster Safon Uwch.

Cynhelir ffug arholiadau mewnol ar ddyddiadau a gyhoeddir yn ystod y flwyddyn er mwyn darparu profiad realistig o amodau arholiad a chyfle i ymarfer.
Derbynnir Cemeg Safon Uwch fel cymhwyster academaidd cydnabyddedig ar gyfer mynediad i’r holl sefydliadau Addysg Uwch ac mae’n darparu cefnogaeth hanfodol i gyrsiau gradd mewn Meddygaeth, Deintyddiaeth, Gwyddoniaeth Filfeddygol, Fferylliaeth, Peirianneg Gemegol a Gwyddorau Biofeddygol.
Gall fod yn ofynnol prynu offer a/neu wisg benodol ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?