Trosolwg o’r Cwrs

Y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn y fanyleb hon yw:
Anatomi a Ffisioleg gymhwysol: dod i ddeall a gwybod am newidiadau yn systemau’r corff, cyn ymarfer, yn ystod ymarferion gwahanol ddwysedd ac yn ystod adferiad.

Ffisioleg Ymarfer: dod i ddeall a gwybod am:
• diet: a maethiad a’u heffaith ar weithgarwch corfforol a pherfformiad
• dulliau paratoi a hyfforddi o ran cynnal a gwella gweithgarwch a pherfformiad ffisegol
• atal anafiadau ac adferiad ar ôl anafiadau

Symudiadau Biomecanyddol: dod i ddeall a gwybod am fudiant a grymoedd, a’u perthnasedd i berfformiad mewn gweithgarwch ffisegol a chwaraeon.
Caffael Sgiliau: dod i ddeall a gwybod am yr egwyddorion sydd eu hangen i optimeiddio dysgu sgiliau newydd a datblygu sgiliau presennol.
Seicoleg Chwaraeon: dod i ddeall a gwybod am swyddogaeth seicoleg chwaraeon mewn optimeiddio perfformiad mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon.
Chwaraeon a Chymdeithas:: dod i ddeall a gwybod am esblygiad a rhyngweithio chwaraeon a chymdeithas.
Swyddogaeth Technoleg mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon: dod i ddeall a gwybod am ddatblygiadau technolegol mewn gweithgarwch ffisegol a chwaraeon.

Bydd manylebau UG a Safon Uwch Addysg Gorfforol yn gofyn i fyfyrwyr hefyd ddangos eu gallu i gymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o'r gwahanol feysydd, a nodwyd uchod, i weithgarwch corfforol a chwaraeon ac i ddefnyddio damcaniaethau, cysyniadau, egwyddorion a modelau i ddadansoddi ac asesu gweithgarwch a pherfformiad corfforol.
Mae’r cymhwyster Uwch Gyfrannol (UG) yn 40% o farciau’r cymhwyster Safon Uwch llawn.
Gallwch ddilyn y cwrs UG ar ei ben ei hun neu fel rhan gyntaf y cwrs Safon Uwch llawn.
Bydd ymgeiswyr UG yn astudio dwy uned:

Uned 1: “Archwilio Addysg Gorfforol” – arholiad ysgrifenedig 1¾ awr sy’n 24% o’r cymhwyster.
Mae’r arholiad hwn yn asesu holl gynnwys y pwnc UG a bydd yn cynnwys cwestiynau wedi’u cyd-destunoli i gynnwys rhai dewis lluosog, ymateb i ddata a chwestiynau byr ac estynedig

Uned 2: “Gwella Perfformiad Personol mewn Addysg Gorfforol” – Asesiad nad yw’n arholiad sy’n 16% o’r cymhwyster ac sy’n asesu:
• perfformiad ymarferol mewn un gweithgarwch fel chwaraewr / perfformiwr ac fel hyfforddwr
• proffil perfformiad personol

Yn ddelfrydol dylai darpar fyfyrwyr fod yn cystadlu’n rheolaidd yn eu chwaraeon dewisedig fel bod modd cael tystiolaeth fideo. Dylai myfyrwyr hefyd sefydlu cysylltiadau yn eu cymuned (naill ai mewn ysgol neu glwb lleol) er mwyn hyfforddi ar sail reolaidd ar gyfer yr asesiad fel hyfforddwr.

Bydd Ymgeiswyr Safon Uwch A2 yn astudio dwy uned ychwanegol:

Uned 3: “Gwerthuso Addysg Gorfforol” a fydd yn cael ei asesu trwy arholiad ysgrifenedig 2 awr ac sy’n 36% o’r cymhwyster.

Uned 4: “Mireinio Perfformiad Personol mewn Addysg Gorfforol” sy’n asesiad nad yw’n arholiad ac sy’n 24% y cymhwyster. Bydd yr uned hon yn asesu perfformiad ymarferol mewn un gweithgarwch fel chwaraewr / perfformiwr, hyfforddwr neu swyddog, yn ogystal â phrosiect Ymchwil Ymchwiliol.
5 TGAU gradd C/4 neu uwch gan gynnwys Saesneg iaith / Cymraeg iaith gyntaf a Mathemateg a bodloni’r meini prawf canlynol:

– Oherwydd y pwyslais ar asesu perfformiad a hyfforddi mewn math penodol o chwaraeon, mae cymryd rhan mewn o leiaf un gweithgaredd chwaraeon ar lefel clwb yn hanfodol.

Yng Ngholeg Cambria rydym yn eich annog chi I wneud y gorau gallwch chi yn eich arholiadau. Y gorau yw eich graddau, y mwyaf o opsiynau fydd gennych chi, a gall hyn eich arwain at ennill lle ar gwrs lefel uwch.
Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gweld y cymwysterau’n ddefnyddiol os mai eu bwriad yw:

(i) astudio cyrsiau ychwanegol yn y sector Addysg Uwch, yn enwedig mewn Addysg Gorfforol neu bynciau cysylltiedig h.y. Gwyddor Chwaraeon, Symudiad Dynol, Rheoli Hamdden.

(ii) dilyn gyrfaoedd mewn meysydd fel: gweinyddu chwaraeon, hamdden a rheoli hamdden, yr heddlu a’r lluoedd arfog, nyrsio, ffisiotherapi, adferiad gymnasteg, newyddiaduraeth chwaraeon, addysgu.
Efallai bydd angen prynu gwisg / offer ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?