Diploma Mynediad i Addysg Uwch Lefel 3 - Gwaith Cymdeithasol, Proffesiynau Addysg, Cwnsela, Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol
Trosolwg o’r Cwrs
Nod y Diploma yw paratoi dysgwyr i astudio yn y Brifysgol mewn ystod o raddau fel Addysg Gynradd gyda SAC**, Gwaith Cymdeithasol, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Hanes, Saesneg ynghyd â llawer mwy. Mae'r cwrs yn cynnwys ystod o bynciau yn ynghyd ag Astudiaethau Sgiliau Craidd. Gall y modiwlau gynnwys Seicoleg, Cymdeithasol, Hanes, y Cyfryngau a Saesneg. Byddwch yn cael cyngor am hyn gan diwtor. Mae’r Sgiliau Craidd yn cynnwys Cyfathrebu, Sgiliau Astudio a Rhifedd.
Cyflawnir y rhaglen drwy asesu parhaus. Mae’r rhan fwyaf o’r cwrs yn waith aseiniadau gyda rhywfaint o brofiad o brofion wedi’u hamseru neu arholiadau. Byddwch yn ennill credydau wrth gwblhau pob uned astudio’n foddhaol. Mae’n rhaid cael 60 credyd i ennill y Diploma Mynediad i AU, sy’n cynnwys nifer o gredydau gorfodol. Graddau’r credydau lefel 3 yw Llwyddo, Teilyngdod neu Ragoriaeth. Ar ôl cwblhau’r rhaglen astudio lawn yn llwyddiannus, byddwch yn derbyn Diploma Mynediad i Addysg Uwch – Agored Cymru, sy’n cael ei gydnabod gan ‘QAA’.
TGAU Gradd C/4 mewn Saesneg neu Fathemateg, ac o leiaf Gradd D/3 yn y pwnc arall.
Neu
Lefel 2 AON neu Gyfathrebu, gydag o leiaf Lefel 1 yn y pwnc arall.
Dylai ymgeiswyr fod yn 19+ oed i astudio’r cwrs hwn.
Fodd bynnag, rydym yn annog oedolion sydd â phrofiad bywyd a gwaith i wneud cais hyd
yn oed os nad oes ganddynt y gofynion mynediad uchod gan fod cais pob dysgwr yn cael
ei asesu’n unigol.
Mae darpar ymgeiswyr yn cael eu hannog i gysylltu â phrifysgolion unigol er mwyn cael
gwybodaeth am ofynion mynediad.
Efallai y cewch eich cynghori i gofrestru ar y cwrs Paratoi ar gyfer Gyrfa ac Astudio neu
SHC cyn dechrau’r cwrs Mynediad. Mae’r rhaglen hon yn rhoi cyfle i sefyll arholiad TGAU
mewn Mathemateg neu Saesneg.

Gallwch symud ymlaen i astudio cyrsiau fel Addysg, Gwaith Cymdeithasol, Saesneg, Seicoleg, Troseddeg, Cymdeithaseg, Daearyddiaeth, Hanes, Newyddiaduraeth ac mae sawl opsiwn arall ar gael
Efallai y bydd angen prynu offer a/neu wisg ar gyfer rhai cyrsiau.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.