Tystysgrif Lefel 2 FDQ mewn Sgiliau Glanhau a ChymorthGweinyddu C0002186 (50093101)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18644
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12-24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr.
Adran
Gweithgynhyrchu Bwyd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 BII ar gyfer ymgeiswyr gyda rhagolygon tymor hir yn y diwydiant lletygarwch trwyddedig sy’n cynnig llwybr i symud ymlaen i swyddi arwain a rheoli, neu i ymgeiswyr sy’n gallu dangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau. Bydd ymgeiswyr yn dod i’r coleg unwaith y mis ar gyfer nifer o gyrsiau byr sy’n benodol i’r cymhwyster hefyd.

Yn wahanol i lawer o brentisiaethau lletygarwch eraill, mae’r brentisiaeth BII hon yn hollol unigryw gan ei bod yn cwmpasu unedau sydd wedi’u llunio ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig, ac mae ganddi’r fantais ychwanegol o gynnwys y cymhwyster Dyfarniad ar gyfer Deiliad Trwydded Bersonol, yn ogystal ag ystod eang o gyrsiau byr eraill sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig.
Mae’r cyrsiau sydd wedi’u cynnwys gyda’r cwrs hwn yn cynnwys:
Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
Lefel 2 mewn Iechyd a diogelwch yn y gweithle
Ymwybyddiaeth alcohol yn y diwydiant lletygarwch
Ymwybyddiaeth cyffuriau yn y diwydiant lletygarwch
Gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau diod
Rhagoriaeth gwasanaethau i gwsmeriaid
Ansawdd cwrw a seler (casgenni a barilanau)
Gweithrediadau lletygarwch trwyddedig
Deall marchnata busnes
Deall a Gwerthu Gwin
Rheoli Anghydfod yn y Diwydiant Lletygarwch
Tystysgrif Deiliad Trwydded Bersonol
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.

Rhaid i’r ymgeisydd ddod i gwrs byr bob mis ar safle Glannau Dyfrdwy i gyflawni’r fframwaith lawn.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.

Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau canlynol os yw eu swydd yn addas.

Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Briff Brecwast Cambria ar gyfer Busnes
02/07/2025

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?