Diploma Lefel 4 City and Guilds mewn Rheoli Lletygarwch PLA

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18598
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12-24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster Diploma Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch ar gyfer yr ymgeisydd sy’n gweithio neu sydd eisiau gweithio fel rheolwr lletygarwch, pennaeth adran, rheolwr cegin, prif gogydd, cogydd gweithredol, rheolwr blaen swyddfa, rheolwr blaen tŷ, rheolwr derbynfa, rheolwr llety, rheolwr cadw tŷ, swyddog cadw tŷ gweithredol, rheolwr bwyd a diod, rheolwr bwyty, rheolwr bar yn y sector lletygarwch ac arlwyo.

Mae’n galluogi ymgeiswyr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sy’n ofynnol ar gyfer cyflogaeth
a/neu ddilyniant gyrfa yn y sector lletygarwch ac arlwyo.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18 oed neu’n hŷn ac wedi ennill cymhwyster lefel 3 mewn maes pwnc priodol yn ogystal ag un flwyddyn o brofiad yn y diwydiant.

Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Mae rhan fawr o’r cymhwyster hwn yn cael ei chyflwyno trwy sesiynau sy’n cael eu haddysgu ar safle Glannau Dyfrdwy a thrwy gwblhau aseiniadau, yn ogystal â mynd i gyrsiau a gweithdai.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Cyfleoedd gyrfa a dilyniant i’w drafod mewn cyfarfod un i un gyda’ch asesydd.
Gall dysgwyr sy’n cyflawni diploma lefel 4 symud ymlaen at radd Sylfaen mewn pwnc cysylltiedig.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Briff Brecwast Cambria ar gyfer Busnes
02/07/2025

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?