Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Garddwriaeth yn y Gwaith(0065-73) - PLA

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18584
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni unedau, a byddan nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n cymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis.
Adran
Garddwriaeth a Thirlunio, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn ystod eang o swyddi penodol, gan gynnwys:
Gofalwr Tir
Gweithiwr Parciau neu’r Gwasanaethau Stryd
Garddwr
Tirluniwr
Gweithiwr cynhyrchu
Gweithiwr Canolfan Arddio

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n cwblhau tasgau arferol yn y gweithle. Gallan nhw ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel y cam nesaf i lefelau uwch gwahanol a phrentisiaethau a llwybrau gyrfa berthnasol.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol.

Mae sgiliau galwedigaethol sy’n rhan o’r cymhwyster hwn yn cynnwys:-
Sefydlu planhigion a glaswellt gan hadu a phlannu gan gynnwys clirio safleoedd, paratoi tir ac ôl-ofal.
Defnyddio a chynnal ystod o offer fel offer di-bŵer ac offer llaw â phŵer, offer â phŵer a reolir gan unigolyn sy’n cerdded, nadwyr a/neu beiriannau rhwygo ac offer wedi’i bweru sy’n cael ei yrru.
Cynnal a chadw planhigion a mannau glaswelltog gan gynnwys tocio a thorri, rheoli llystyfiant diangen, adnabod a rheoli plâu, afiechydon ac anhwylderau.
Adeiladu a chynnal a chadw ystod o nodweddion tirwedd caled fel nodweddion dŵr, ardaloedd palmantog a strwythurau
Tyfu, cynhaeafu a chludo cnydau
Lluosogi planhigion

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma ydy’r cymhwyster hwn a bydd angen cyflawni 37 credyd; 20 o’r unedau gorfodol ac 17 credyd arall o’r unedau dewisol.
Caiff dysgwyr addas 16 oed a hŷn eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.



Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion
Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion
Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?