Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn yGwaith - PLA

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18571
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni unedau a byddan nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny
Adran
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau a gwybodaeth mewn ystod eang o sgiliau amgylcheddol a chadwraeth i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
Ceidwad neu weithredwr ym maes rheoli parciau trefol neu o gwmpas trefi
Gweithiwr mewn gwarchodfeydd natur a chynefinoedd gwarchodedig
Unigolyn sy’n gweithio gyda gwirfoddolwyr ar gyfer sefydliadau yn y sector
Aelod tîm sy'n gweithio fel rhan o'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau elusennol tebyg a chyrff cyhoeddus wedi’u hariannu
Gweithredwr sy’n gweithio i gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau i'r sector

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n cwblhau tasgau arferol yn y gweithle. Gallan nhw ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel y cam nesaf i lefelau uwch gwahanol a phrentisiaethau a llwybrau gyrfa berthnasol.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol yn ogystal â hyrwyddo arfer amgylcheddol da a chyfathrebu gyda’r cyhoedd ac eraill.

Mae sgiliau galwedigaethol sy’n rhan o’r cymhwyster hwn yn cynnwys:-
Gweithio ar weithrediadau rheoli cynefinoedd fel sefydlu a chynnal cynefinoedd (e.e. coetiroedd, glaswelltir, ucheldir, arfordirol)
Adeiladu a chynnal a chadw nodweddion a gosodiadau yng nghefn gwlad neu ar lwybrau mynediad
Cynnal arolygon planhigion, cynefinoedd, anifeiliaid ac ati, ac adrodd ar ganfyddiadau
Gweithio gyda gwirfoddolwyr a phobl ifanc
Gweithio ar brosiectau ailgylchu

Gall gynnwys sgiliau eraill yn y sector fel:-
Hyrwyddo nodweddion a gwerthoedd y sefydliad
Rheoli ymddygiad pobl ar y safle

Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, dangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser a gweithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Fel rhan o brentisiaeth mae’r adran wybodaeth yn cynnwys uned “Busnes ar gyfer Cadwraeth Amgylcheddol” ar wahan.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma ydy’r cymhwyster hwn a bydd angen cyflawni 37 credyd o leiaf, o gyfuniad o unedau penodol.
Caiff dysgwyr addas 16 oed a hŷn eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau gan dystion.

Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Mae’n bosib defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefelau uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Briff Brecwast Cambria ar gyfer Busnes
02/07/2025

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?