Diploma Lefel 3 City & Guilds mewn Amaethyddiaeth yn y Gwaith

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA18567
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gyflawni unedau, a byddan nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n cymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 18 a 24 mis.

Adran
Peirianneg Amaethyddol, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn wedi'i lunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth mewn sgiliau Amaethyddol i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys arweinydd tîm neu oruchwyliwr mewn:-
Gwaith Fferm
Rheoli Buches
Bugeilio
Contractio

Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n trefnu, goruchwylio ac adrodd ar dasgau arferol yn y gweithle. Gallan nhw ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch gwahanol ac at lwybrau gyrfa berthnasol.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a hyrwyddo sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol yn ogystal â hyrwyddo arfer amgylcheddol da a chyfathrebu yn y gweithle.

Gallai’r unedau dewisol gynnwys rhai o'r unedau canlynol
Paratoi ar gyfer, monitro a chynnal y gwaith o odro da byw
Monitro a gofalu am anifeiliaid yn ystod ac ar ôl iddyn nhw roi genedigaeth
Monitro a chynnal lefelau maeth pridd ar gyfer glaswelltir a chnydau porthiant
Monitro a chynnal anifeiliaid yn ystod beichiogrwydd
Datblygu a gweithredu cynlluniau ar gyfer gwaredu gwastraff
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr hwyluso’r gwaith paratoi ar gyfer y tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.

Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.

Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma ydy’r cymhwyster hwn. Bydd angen cyflawni cyfanswm o 57 credyd 32 o’r unedau gorfodol ac o leiaf 25 credyd o’r unedau dewisol.
Caiff dysgwyr addas 16 oed a hŷn eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gyflogedig yn y maes dysgu hwn eisoes ac yn cael cefnogaeth lawn gan eich cyflogwr. Dylech chi fod mewn safle i oruchwylio neu reoli gwaith yn y gweithle.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.



Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel.
Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.

Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau gan dystion.

Mae’n rhaid i’r dysgwr fynychu’r coleg unwaith yr wythnos i gael addysg a chymorth dysgu ychwanegol er mwyn eu helpu i gwblhau’r elfen gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cymhwyster hwn.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir ei ddefnyddio fel cam agosach at lefel uwch fel
* Dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma lefel 3 mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
* Cymhwyster Addysg Uwch lefel 4 neu 5
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych chi’n gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?