Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Amaethyddiaeth yn y Gwaith
Rhestr Fer
Rhagor o fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA18565 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser y mae’n gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen rhwng 12 a 20 mis. |
Adran | Peirianneg Amaethyddol, Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd |
Dyddiad Dechrau | Roll On, Roll Off |
Dyddiad gorffen | Roll On, Roll Off |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector amaethyddiaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau amaethyddol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
Gweithiwr Fferm Gyffredinol
Cowmon
Bugail
Contractwr
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnasau gwaith effeithiol.
Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
Paratoi ar gyfer, cyflawni a chwblhau’r gwaith o odro da byw
Monitro a chynnal y cyflenwad bwyd a dŵr i dda byw
Cynnal iechyd a lles da byw wrth iddyn nhw eni eu hepil a gofalu amdanyn nhw a’u hepil
Paratoi a gweithredu tractor ac atodiadau
Cynnal a chadw offer a pheiriannau
Darparu triniaethau sylfaenol i dda byw
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.
Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.
Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Diploma yw’r cymhwyster hwn ac mae angen cyflawni 37 credyd o’r unedau gorfodol a’r unedau dewisol.

Caiff dysgwyr addas 16 oed a hŷn eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae hi’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei ddangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion.
Mae’n rhaid i’r dysgwr fynychu’r coleg unwaith yr wythnos i dderbyn addysg a chymorth dysgu ychwanegol er mwyn cwblhau eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r cymhwyster hwn.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Mae’n bosib defnyddio’r cymhwyster fel cam agosach at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn sefyllfa i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Dim data i'w weld
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Cymhwyster NEBOSH mewn Ymwybyddiaeth Amgylcheddol yn y Gweithle
award
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Garddwriaeth yn y Gwaith(0065-73) - PLA
diploma
Peirianneg Amaethyddol
Lefel 3 Cynllun Hyfforddiant Diploma Gofal Tir Kubota
diploma