Unedau Cynnal a Chadw Peirianneg

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisoes wedi cyflawni’r Diploma L3 NVQ mewn Cynnal a Chadw Peirianneg ac sy’n dymuno profi cymhwysedd mewn maes technegol arall.
Dyma Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ) yn y gwaith. Daw’r dystiolaeth y byddwch chi’n ei chreu yn uniongyrchol o weithgareddau a thasgau yn y gweithle y byddwch chi’n eu cyflawni fel rhan o’ch dyletswyddau Peirianneg arferol.


Llwybrau yn y cymhwyster hwn:
Mecanyddol
Trydanol
Electronig
Pŵer Hylifol
Systemau wedi'u Peiriannu
Cynnal a Chadw Gwasanaethau
Gwasanaethu a Thrwsio Lifftiau
Offeryniaeth a Rheoli

Bydd llwybrau ac unedau penodol ar gyfer y cymhwyster hwn yn cael eu dewis a chytuno arnynt wrth gofrestru. Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddiant y dysgwr i sicrhau bod unedau cymhwysedd yn gyraeddadwy.
Nid oes unrhyw arholiadau na phrofion.
Bydd pob uned yn cael ei hasesu trwy amrywiaeth o ddulliau asesu a all gynnwys arsylwadau gweithle, ysgrifennu adroddiadau swydd, ffotograffau ac amrywiaeth o ddulliau eraill fel y bo’n briodol. Mae’r dystiolaeth yn cael ei chreu dros gyfnod addas o amser i sicrhau bod cymhwysedd yn cael ei gadarnhau.
Rhaid bod yn gyflogedig mewn swydd ym maes Peirianneg. Mae angen mentor â chymwysterau addas yn y gweithle i oruchwylio gweithgareddau a chefnogi datblygiad y dysgwr.
Bydd hyn yn helpu unigolion i ennill cymwysterau addas yn eu maes perthnasol. Gellir symud ymlaen i HNC mewn Peirianneg, NVQ L4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg.
I gael gwybod y gost, ffoniwch ein tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?