main logo

Tystysgrif L2 Cyfrifeg AAT (Rhan Amser - dydd)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA06000
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Medi – Mehefin. Ar ddydd Llun 13:00 – 19:30 yn Iâl a Llaneurgain.
Adran
Cyfrifeg
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Nod y cymhwyster hwn yw eich cyflwyno i sgiliau cyfrifo a chyllid syml. Byddwch yn meithrin eich sgiliau mewn gweinyddiaeth cyllid: cofnodi dwbl, egwyddorion costio syml, a chyfriflyfrau prynu, gwerthu a chyffredinol. Fel cymhwyster annibynnol, neu fel cam cyntaf tuag at y lefelau canolradd ac uwch, bydd yn eich galluogi i fynd ymlaen i ddilyn astudiaethau pellach mewn cyfrifeg a chyllid.

Bydd y lefel ragarweiniol yn addas i chi:
Os ydych chi’n gweithio ym maes cyfrifon ac yn dymuno cael cymhwyster ffurfiol yn y maes
Os hoffech chi feithrin sgiliau newydd i’ch cynorthwyo gyda newid eich gyrfa
Os ydych chi’n ymadawr ysgol sy’n chwilio am gyflwyniad i gyfrifeg a chyllid
Os nad ydych chi mewn gwaith neu hyfforddiant, a bod angen sgiliau yn y gweithle arnoch chi
Os hoffech chi fod yn aelod llawn o AAT, neu astudio ar gyfer statws siartredig

CYFLWYNIAD I GADW CYFRIFON
Deall sut i osodo systemau cadw cyfrifon
Prosesu trafodion cwsmeriaid
Prosesu trafodion cyflenwyr
Prosesu derbynebau a thaliadau
Prosesu trafodion i gyfrifon y cyfriflyfrau

EGWYDDORION RHEOLAETHAU CADW CYFRIFON
Defnyddio cyfrifon rheoli
Cymodi cyfriflenni gyda llyfr arian
Cynhyrchu balansau prawf

EGWYDDORION COSTIO
Deall cost systemau cofnodi mewn sefydliad
Defnyddio technegau recordio cost
Darparu gwybodaeth ar gwir gost ac incwm ac wedi’u cyllidebu
Defnyddio dulliau a thechnegau i gynorthwyo cyfrifiadau cost

YR AMGYLCHEDD BUSNES
Deall egwyddorion cyfreithiau contract
Deall yr amgylchedd busnes allanol
Deall egwyddorion allweddol cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR), moeseg a chynaliadwyedd
Deall effaith sefydlu gwahanol fathau o endid busnes
Deall y swyddogaeth gyllid o fewn sefydliad
Cynhyrchu gwaith mewn fformatau priodol a chyfathrebu'n effeithiol
Deall pwysigrwydd gwybodaeth i weithrediadau busnes
Mae asesiadau AAT wedi cael eu llunio i asesu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o’r sgiliau rydych chi wedi eu meithrin. Asesiadau AAT:

• Maent yn asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
• Maent yn cael eu marcio bron yn awtomatig, felly cewch weld y canlyniadau dros dro yn syth. Mae hyn yn eich galluogi i ddeall sut rydych chi’n dod ymlaen.

Mathau o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA)
Mae dau fath o asesiadau ymarferol ar gyfrifiaduron (CBA):

● Profion ar gyfrifiadur sydd wedi’u marcio’n gyfan gwbl gan feddalwedd cyfrifiadurol AAT. Mae canlyniadau dros dro Lefel 2 ar gael ar ddiwrnod yr asesiad.
● Prosiectau ar gyfrifiadur sydd wedi’u marcio’n rhannol gan gyfrifiadur ac yn rhannol gan Arholwyr AAT. Mae canlyniadau’r arholiadau hyn yn cymryd 6 wythnos i gyrraedd.
TGAU Saesneg a Mathemateg gradd C/4 neu uwch (neu gymwysterau cyfwerth)
Bydd gofyn i chi ymgymryd ag asesiad dechreuol i gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y cwrs hwn.
Swyddi posib ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn

• Gweinyddydd Cyfrifon
• Cymhorthydd Cyfrifon
• Clerc Cyfrifon Taladwy
• Ceidwad Cyfrifon
• Gweinyddydd Cyflogres
• Swyddog Cyflogres
• Clerc Cyfriflyfrau Prynu / Gwerthiant
• Cymhorthydd Treth / Dan Hyfforddiant
• Technegydd Cyfrifon Dan Hyfforddiant
£750

Mae llyfrau gwaith a thiwtorialau ar gyfer y flwyddyn yn gost ychwanegol
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?