main logo

Diploma Lefel 2 VTCT mewn Ewinedd

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA55028
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, 18 mis
Adran
Therapïau Harddwch, Sba a Chyflenwol
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r Diploma NVQ Lefel 2 VTCT mewn Gwasanaethau Ewinedd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol ar gyfer dysgwyr sy’n dymuno dilyn gyrfa fel technegydd ewinedd cyflogedig a/neu hunangyflogedig. Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol (NOS) gwasanaethau ewinedd, ac mae’n cael ei gydnabod gan brif gyrff proffesiynol y Deyrnas Unedig (The British Association of Beauty Therapy and Cosmetology (BABTAC) and the Federation of Holistic Therapists (FHT)) yn gymhwyster addas y diben o baratoi dysgwyr at yrfa fel technegydd ewinedd iau.

Mae’r cymhwyster hwn wedi ei lunio’n benodol i’r grŵp oedran 16-19, a bydd y wybodaeth a sgiliau technegol I baratoi dysgwyr at gyflogaeth fel technegydd ewinedd iau. Byddwn yn asesu sgiliau gwasanaethau ewinedd dysgwyr mewn amgylchedd gwaith go iawn.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys yr holl elfennau sydd eu hangen I weithio’n effeithiol fel technegydd ewinedd gan gynnwys: gosod a chynnal ychwanegiadau’r ewinedd ar gyfer gorffeniad naturiol, gwasanaethau celfyddyd yr ewinedd, darparu triniaethau’r dwylo a thriniaethau’r traed, cyflawni dyletswyddau derbynfa salon, hyrwyddo cynnyrch a gwasanaethau ychwanegol I gleientiaid ac effeithiolrwydd yn y gwaith. Mae holl unedau’r cymhwyster hwn yn orfodol.
Dyma un o ddau gymhwyster Lefel 2 VTCT mewn gwasanaethau ewinedd. Er bod y ddau gymhwyster yn golygu bod dysgwyr yn gymwys i fod yn dechnegwyr ewinedd a chael cyflogaeth ar lefel ieuaf, mae’r cymhwyster hwn yn gofyn bod dysgwyr yn gweithio mewn salon harddwch fasnachol lle mae asesiadau yn cael eu gweithredu ar gleientiaid go iawn sy’n talu, yn unol ag amseroedd gwasanaethau masnachol.
Bydd rhaid i chi fod yn gyflogedig gyda chyflogwr addas yn y sector Harddwch
– Salonau harddwch masnachol
– Stondin fasnachol ‘bar ewinedd’
– Gweithio’n annibynnol / hunan-gyflogedig / symud o le i le / gweithio o adref
I gael gwybodaeth am y gost cysylltwch â’n tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar:
0300 30 30 006 neu employers@cambria.ac.uk
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?