main logo

Cyflwyniad i Hyrwyddwyr Iechyd yn y Gweithle Lefel 2

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18330
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Cynhelir y cwrs hwn mewn 1 Diwrnod

Bydd yn cael ei gynnal ar Safle Llaneurgain.

Am ragor o fanylion cysylltwch ag enquires@cambria.ac.uk

Mae’r cwrs hwn yn agored i unigolion sydd eisiau archebu lle ar y cwrs hwn neu gwmnïau bach sydd eisiau cofrestru nifer fechan o weithwyr ar y cwrs.

Gallwn hefyd gynnig lle i gyflogwyr fel carfan ac os bydd hynny ar gyfer grŵp o 8 neu ragor, gallwn gynnal y cwrs ar safle’r cyflogwr.
Adran
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Iechyd Meddwl
Dyddiad Dechrau
11 Feb 2025
Dyddiad Gorffen
11 Feb 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i ddod yn hyrwyddwr iechyd yn y gweithle. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer y rheini sy’n gyfrifol am hyrwyddo dewisiadau iechyd yn y gweithle, neu a hoffai gymryd rhan mewn hyrwyddo iechyd yn y gweithle. Mae'r cymhwyster wedi'i gynllunio mewn partneriaeth ag Active Lancashire gyda ffocws penodol ar weithgaredd corfforol.
Amcanion y cymhwyster hwn yw:
● Cyflwyno'r cysyniad o iechyd yn y gweithle a rôl yr hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
● Adnabod y prif ffactorau sy'n effeithio ar iechyd corfforol a meddyliol
● Deall egwyddorion allweddol newid ymddygiad
● Adnabod yr angen i ddiogelu oedolion fel hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
● Deall sut i gynllunio gweithgaredd corfforol yn y gweithle
● Deall sut i gynllunio gweithgaredd corfforol yn y gweithle
Graddfa raddoli o lwyddo yn unig. Asesir deilliannau dysgu drwy bortffolio o dystiolaeth.
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn. Mae’r cymhwyster hwn yn gymhwyster gwybodaeth yn unig. Nid yw profiad gwaith yn hanfodol, ond gan fod y wybodaeth i gyd yn benodol i’r gweithle, byddai hynny’n ddymunol.
Gall y cwrs hwn ddarparu:

● Y wybodaeth greiddiol sydd ei hangen i ddod yn hyrwyddwr iechyd yn y gweithle
a allai arwain at ragor o gyfleoedd i gael dyrchafiad.
● Cyfleoedd i symud ymlaen i gymwysterau lefel uwch (ee. Lefel 3)
Cost – £70 y pen. Ffi Cofrestru £33. Cyfanswm £103.
******Cyllid posibl ar gael i gyflogwyr.
Cysylltwch ag employers@cambria.ac.uk neu Sally Ewing sally.ewing@cambria.ac.uk am ragor o wybodaeth am gyllid posibl i ‘gyflogwyr yn unig’.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?