Dyfarniad Lefel 2 ILM mewn Sgiliau Mentora Effeithiol
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer y rhai sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau er mwyn deall ac ymgymryd â mentora effeithiol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Mae’r cymhwyster hwn yn cynnig cyfle i ddatblygu dealltwriaeth o rôl a natur mentora, sut i ddefnyddio sgiliau mentora i adfyfyrio ar eich perfformiad eich hun a dysgu technegau gwrando a chwestiynu allweddol.
Bydd dysgwyr yn deall sut i drefnu gweithgareddau mentora a chynllunio ar gyfer sesiynau mentora effeithiol. Bydd gweithgareddau'n cynnwys myfyrio ar eich perfformiad eich hun a diffinio nodau, cynnydd a chamau gweithredu. Bydd hyn hefyd yn galluogi dysgwyr i ennill sgiliau a gwybodaeth er mwyn datblygu arfer mentora effeithiol yn unol â’u rôl a’u cyfrifoldebau sefydliadol eu hunain, gan ddatblygu diwylliant mentora trwy gyflwyno sgiliau a thechnegau mentora allweddol.

Aseiniad ysgrifenedig a dysgwyr i nodi mentorai addas i weithio gyda nhw yn y gweithle i gasglu eu tystiolaeth ymarferol a fydd yn cynnwys cynhyrchu cofnodion o’r gweithgaredd mentora e.e. contract/au, dogfennau cynllunio, arsylwi’n uniongyrchol ar berfformiad y dysgwr gan eu tiwtor, llafar neu cwestiynau ysgrifenedig, datganiadau personol, adborth gan y mentorai, goruchwyliaeth wedi’i recordio
Rhaid i ganolfannau sicrhau bod dysgwyr mewn sefyllfa i fodloni gofynion asesu’r cymhwyster.
Cysylltwch â Jeanette Edwards i drafod y rhaglen nesaf a fydd yn cael ei chynnal sut i wneud cais ar jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Cysylltwch â Jeanette Edwards i drafod y rhaglen nesaf a fydd yn cael ei chynnal sut i wneud cais ar jeanette.edwards@cambria.ac.uk
Bydd y cymhwyster hwn yn darparu cyfleoedd dilyniant i gymwysterau eraill fel:
● Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol
● Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
● Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
● Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi Effeithiol
● Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
● Tystysgrif Lefel 5 ILM mewn Hyfforddi a Mentora Effeithiol
£430
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.