main logo

Dyfarniad Lefel 2 C&G mewn Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd Gwyrdd (7617-12)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA16863
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 9 – 12 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny.
Adran
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at ddysgwyr sydd eisiau deall arferion gweithio cynaliadwy ar gyfer swydd benodol, swydd yn y dyfodol a hyfforddiant parhaus. Mae’n ddefnyddiol yn enwedig i’r rhai sydd eisiau gweithio mewn cynaliadwyedd neu’r rhai sydd wedi cael cyfrifoldeb dros gynaliadwyedd yn eu sefydliadau. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio ar gyfer ei ddefnyddio yn niwydiannau’r tir (cadwraeth yr amgylchedd). Mae’r cymhwyster hwn hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd eisiau datblygu neu wella eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o Gynaliadwyedd a’r Amgylchedd Gwyrdd mewn ystod o ddiwydiannau a sectorau. Byddai’n ddefnyddiol yn enwedig ar gyfer symud ymlaen i swydd Swyddog Cynaliadwyedd/Cydlynydd/Ymgynghorydd a’r rhai sydd â chyfrifoldebau am adolygu cynaliadwyedd a chynllunio o fewn busnesau a sefydliadau.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer dysgwyr sydd eisiau datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ynghylch yr amgylchedd, cynaliadwyedd, newid hinsawdd a sero net gan eu bod yn gysylltiedig â dyfodol gwyrdd. Bydd dysgwyr yn archwilio diffiniadau, categorïau, cydrannau ac effeithiau dynol ac an-ddynol yr amgylchedd. Bydd dysgwyr yn archwilio'r diffiniadau, pileri, actorion a thechnolegau gwyrdd sy'n ymwneud â chynaliadwyedd. Byddant yn archwilio pynciau nwyon tŷ gwydr, ffynonellau, targedau a'u heffeithiau ar newid hinsawdd. Bydd dysgwyr yn archwilio'r cyd-destun carbon, ôl troed carbon yn ogystal â pholisi cenedlaethol a rhyngwladol ar sero net.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu ar ffurf cymysgedd o gyflwyniadau, dysgu dan gyfarwyddyd, cyfeiriadau gwe achrededig a fideos.

Asesir yr holl ddeilliannau dysgu trwy gwblhau llyfrau gwaith y modiwl.
Mae hefyd aseiniad 6 awr diwedd y modiwl i’w gwblhau, sy’n aseiniad llyfr agored sydd â marc llwyddo cyffredinol o 60%. Mae un aseiniad 6 awr ar gyfer pob un o’r pedwar modiwl.
Gwahoddir dysgwyr addas o bob oedran i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Nid yw City & Guilds yn gosod gofynion mynediad ar gyfer y cymwysterau hyn. Fodd bynnag, mae’n rhaid i ganolfannau sicrhau fod gan ymgeiswyr y potensial a’r cyfle i ennill y cymhwyster yn llwyddiannus.

Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i ddylunio er mwyn darparu dysgwyr gyda’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth o gynaliadwyedd, yr amgylchedd, newid hinsawdd a sero net i’w galluogi nhw i symud ymlaen i swyddi fel Cydlynydd/Ymgynghorydd Cynaliadwyedd.

Gallai dysgwyr hefyd symud ymlaen i astudio rhaglen lefel 3 a/neu swydd reolwr cynaliadwyedd. Gallai fod yn bwynt dechrau ar gyfer dilyniant gyrfa lle y gallai dysgwyr ddatblygu yn rhagor mewn swyddi proffesiynol wrth iddynt ymwneud â’r economi werdd. Gallai dysgwyr sy’n cyflawni’r cymhwyster hwn symud ymlaen i:
● Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Busnes ar gyfer y Sector Amgylchedd a Thir
● Diploma Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol yn y Gwaith
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?