main logo

BIIAB Dyfarniad Lefel 2 ar gyfer Deiliaid Trwyddedi Personol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA13976
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Hyd y cwrs yw 10 awr a fydd yn cael ei gynnwys fel dwy sesiwn hanner diwrnod. Bydd tasgau’n cael eu gosod rhwng y ddwy sesiwn.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn adeiladau trwyddedig sy’n gwerthu alcohol. Byddwch chi’n edrych ar awdurdodau trwyddedig; ar gyfrifoldebau’r deiliad trwydded bersonol; pwerau’r heddlu; hawliau mynediad; gwaharddiadau penodol; pa mor gryf yw diodydd alcoholig; manwerthu alcohol yn gyfrifol; ac amddiffyn plant rhag niwed.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yma, bydd gan ymgeiswyr gymhwyster trwyddedu, ac yna gallant wneud cais ar gyfer y Drwydded Bersonol.

Mae'n ofynnol i unrhyw un sy'n awdurdodi gwerthu alcohol i'r cyhoedd (yn unol â'r gofyniad cyfreithiol yng Nghymru a Lloegr) feddu ar gymhwyster addas.

Mae’r cymhwyster yn cynnwys:
● Rolau, cyfrifoldebau a swyddogaethau awdurdodau trwyddedu o fewn fframwaith yr amcanion trwyddedu
● Y broses gwneud cais am drwydded bersonol
● Rôl a chyfrifoldebau cyfreithiol deiliad y drwydded bersonol, a'r cosbau sy'n ymwneud â methu i gydymffurfio â'r
gyfraith
● Trwydded yr adeilad
● Cynnwys a diben yr amserlenni gweithredu
● Rôl a dyletswyddau goruchwyliwr penodedig yr adeilad
● Gweithgareddau trwyddedadwy anawdurdodedig a dros dro
● Hawliau mynediad i adeiladau trwyddedig
● Pwerau'r heddlu o ran atal a chau adeiladau trwyddedig
● Y gwaharddiadau penodol ar gyfer gwerthu alcohol
● Pa mor gryf yw diodydd alcoholig, ac effeithiau alcohol ar y corff dynol
● Amddiffyn plant rhag niwed
● Manwerthu alcohol yn gyfrifol
Arholiad aml-ddewis 40 cwestiwn
Amh
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?