BIIAB Tystysgrif Lefel 2 Mewn Sgiliau Lletygarwch Trwyddedig (QCF)

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA11358
Lleoliad
Coleg Cambria
Hyd
Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau ac maen nhw’n cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12-24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 BII ar gyfer ymgeiswyr gyda rhagolygon tymor hir yn y diwydiant lletygarwch trwyddedig sy’n cynnig llwybr i symud ymlaen at swyddi arwain a rheoli, neu i ymgeiswyr sy’n gallu dangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau. Bydd ymgeiswyr yn dod i’r coleg unwaith y mis ar gyfer nifer o gyrsiau byr sy’n benodol i’r cymhwyster hefyd.

Yn wahanol i lawer o brentisiaethau lletygarwch eraill, mae’r brentisiaeth BII hon yn hollol unigryw gan ei bod yn cwmpasu unedau sydd wedi’u llunio ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig, ac mae ganddi’r fantais ychwanegol o gynnwys y cymhwyster Dyfarniad ar gyfer Deiliad Trwydded Bersonol, yn ogystal ag ystod eang o gyrsiau byr eraill sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig.

Mae’r cyrsiau sydd wedi’u cynnwys gyda’r cwrs hwn yn cynnwys:

*Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
*Lefel 2 mewn Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle
*Ymwybyddiaeth Alcohol yn y Diwydiant Lletygarwch
*Ymwybyddiaeth Cyffuriau yn y Diwydiant Lletygarwch
*Gwasanaethau i Gwsmeriaid a Gwasanaethau Diod
*Rhagoriaeth Gwasanaethau i Gwsmeriaid
*Ansawdd Cwrw a Seler (casgenni a barilanau)
*Hanfodion Arlwyo
*Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig
*Deall a Gwerthu Gwin
*Rheoli Anghydfod yn y Diwydiant Lletygarwch
*Tystysgrif Deiliad Trwydded Bersonol
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod chi’n gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich Asesydd Coleg yn ymweld â’ch gweithle sy’n gorfod cydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.

Rhaid i’r ymgeisydd ddod i gwrs byr bob mis ar safle Glannau Dyfrdwy i gyflawni’r fframwaith lawn.

Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.

Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.

Bydd credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau canlynol os yw eu swydd yn addas.

Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
£380.00
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Cneifio Llysfasi & Digwyddiad Agored
07/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – ial
04/06/2025
Digwyddiadau Agored Addysg i Oedolion – Ffordd Y Bers
04/06/2025
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
26/03/2025

17:00

Mae pobl niwroamrywiol sy’n dymuno astudio yn Cambria yn cael eu gwahodd i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma’r cyfle perffaith i weld popeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n cefnogi’r synhwyrau.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?