main logo

BIIAB Tystysgrif Lefel 2 Mewn Gweithrediadau Lletygarwch Trwyddedig (QCF)

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA11365
Lleoliad
Glannau Dyfrdwy
Hyd
Rhan Amser, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy gwblhau unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol.
Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond mae disgwyl y bydd angen 12-24 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr.
Adran
Lletygarwch ac Arlwyo
Dyddiad Dechrau
01 Aug 2024
Dyddiad Gorffen
31 Jul 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Mae fframwaith Prentisiaeth Lefel 2 BII ar gyfer ymgeiswyr gyda rhagolygon tymor hir yn y diwydiant lletygarwch trwyddedig sy’n cynnig llwybr i symud ymlaen i swyddi arwain a rheoli, neu i ymgeiswyr sy’n gallu dangos ymrwymiad a brwdfrydedd i weithio ac astudio er mwyn ychwanegu at eu gwybodaeth bresennol.

Bydd angen i ymgeiswyr ddangos y sgiliau ymarferol a’r wybodaeth gysylltiedig er mwyn cwblhau’r asesiadau. Bydd ymgeiswyr yn dod i’r coleg unwaith y mis ar gyfer nifer o gyrsiau byr sy’n benodol i’r cymhwyster hefyd.

Yn wahanol i lawer o brentisiaethau lletygarwch eraill, mae’r brentisiaeth BII hon yn hollol unigryw gan ei bod yn cwmpasu unedau sydd wedi’u llunio ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig, ac mae ganddi’r fantais ychwanegol o gynnwys y cymhwyster Dyfarniad ar gyfer Deiliad Trwydded Bersonol, yn ogystal ag ystod eang o gyrsiau byr eraill sydd wedi’u llunio’n benodol ar gyfer y diwydiant lletygarwch trwyddedig.
Mae’r cyrsiau sydd wedi’u cynnwys gyda’r cwrs hwn yn cynnwys:
● Lefel 2 mewn Diogelwch Bwyd mewn Arlwyo
● Lefel 2 mewn Iechyd a diogelwch yn y gweithle
● Ymwybyddiaeth alcohol yn y diwydiant lletygarwch
● Ymwybyddiaeth cyffuriau yn y diwydiant lletygarwch
● Gwasanaethau i gwsmeriaid a gwasanaethau diod
● Rhagoriaeth gwasanaethau i gwsmeriaid
● Ansawdd cwrw a seler (casgenni a barilanau)
● Gweithrediadau lletygarwch trwyddedig
● Deall marchnata busnes
● Deall a Gwerthu Gwin
● Rheoli Anghydfod yn y Diwydiant Lletygarwch
● Tystysgrif Deiliad Trwydded Bersonol
Dysgu agored o bell ac asesu yn y gwaith. Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Caiff asesiadau cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol eu cynnal.
Rhaid i’r ymgeisydd ddod i gwrs byr bob mis ar safle Glannau Dyfrdwy i gyflawni’r fframwaith lawn.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchedd dysgu rhithwir.
Bydd dysgu yn digwydd trwy gyfuniad o arsylwi yn y gwaith, a chwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar.
Mae credydau o ddysgu blaenorol yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.
Mae dysgwyr addas o bob oedran yn cael eu gwahodd i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o fframwaith.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn, gall dysgwyr symud ymlaen at y cymwysterau dilynol os yw eu swydd yn addas.
● Diploma Lefel 3 mewn Lletygarwch a Goruchwylio
Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr trwy ffonio 0300 30 30 006 neu anfon e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?