Home > Ein Cyrsiau > Manylion y Cwrs
City & Guilds Diploma Lefel 3 mewn Cadwraeth Amgylcheddol Seiliedig ar Waith
Rhestr Fer
Rhagor o Fanylion | |
---|---|
Cod y Cwrs | LA07393 |
Lleoliad | Coleg Cambria |
Hyd | Dysgu Agored neu Ddysgu O Bell, Mae ymgeiswyr yn ennill y cymhwyster drwy unedau, ac maent yn cael eu hannog i weithio ar eu cyflymder eu hunain, gan ddilyn rhaglenni dysgu unigol. Bydd yr amser a gymerir i gwblhau’r cymhwyster hwn yn dibynnu ar nifer o ffactorau ond disgwylir y bydd angen 12 – 18 mis ar y rhan fwyaf o ymgeiswyr i wneud hynny. |
Adran | Cadwraeth, Cynaliadwyedd a’r Amgylchedd |
Dyddiad Dechrau | 01 Aug 2024 |
Dyddiad Gorffen | 31 Jul 2025 |
Trosolwg o’r Cwrs
Mae'r cymhwyster hwn wedi'i lunio'n bennaf ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno meithrin sgiliau a gwybodaeth mewn ystod eang o sgiliau amgylcheddol a chadwraeth i gadarnhau cymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
● Arweinydd tîm neu oruchwyliwr mewn maes rheoli parciau trefol neu o gwmpas trefi.
● Goruchwyliwr neu reolwr gwarchodfeydd natur a chynefinoedd gwarchodedig
● Cydlynydd gwirfoddoli ar gyfer sefydliadau yn y sector
● Arweinydd tîm ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau elusennol tebyg a chyrff cyhoeddus wedi’u hariannu
● Contractwr yn darparu gwasanaethau i’r sector
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n cynllunio, darparu a gwerthuso tasgau arferol yn y gweithle a fyddai’n gallu defnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch gwahanol ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch, Perfformiad Personol a pherthnaseddau gwaith effeithiol, ynghyd â hyrwyddo arfer amgylcheddol da a chyfathrebu â’r cyhoedd ac eraill.
Mae sgiliau galwedigaethol y cymhwyster yn cynnwys:
● Cydlynu, goruchwylio a monitro effeithiolrwydd gwaith rheoli cynefinoedd, fel sefydlu a chynnal cynefinoedd (e.e. coetiroedd, glaswelltir, ucheldir, arfordir neu adeiladu nodweddion a gosodiadau yng nghefn gwlad neu ar lwybrau mynediad;
● Cynnal holiaduron am blanhigion, cynefinoedd, anifeiliaid ac ati, dehongli a rhoi gwybod am y canfyddiadau;
● Paratoi, cynhyrchu a gwerthuso cyfryngau deongliadol,
● Rheoli gwaith gwirfoddolwyr;
● Hyrwyddo ailgylchu.
Gall gynnwys sgiliau eraill yn y sector fel:
● Hyrwyddo nodweddion a gwerthoedd y sefydliad;
● Rheoli ymddygiad pobl ar y safle; a
● Gosod systemau TG.
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer y dasg, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.
Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc y tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith. Fel rhan o brentisiaeth mae’r Adran Wybodaeth yn cynnwys uned “Busnes ar gyfer Cadwraeth Amgylcheddol” ar wahân.
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr hwyluso’r gwaith paratoi ar gyfer y tasgau, i sicrhau arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod, gan leihau difrod a rheoli gwastraff.
Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i ddiwallu eu hanghenion dysgu a datblygu. Bydd angen cyflawni o leiaf 57 credyd, o gyfuniad o unedau penodol, ar gyfer y cymhwyster diploma hwn.

Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel.
Cynhelir asesiadau i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei dangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr. Mae’n debygol o gynnwys defnyddio cynlluniau a darparu a gwerthuso prosiect a gafodd ei gwblhau fel rhan o’ch gwaith arferol.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystio a thrafodaethau proffesiynol gyda’r asesydd.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Ystyrir credydau o ddysgu blaenorol hefyd, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn yn dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Mae’r cymhwyster hwn yn rhan o Fframwaith Brentisiaeth neu’n gymhwyster ar ei ben ei hun. Gellir ei ddefnyddio fel cam agosach at lefel uwch fel
● Dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn sefyllfa i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.
● Diploma Lefel 4 mewn Garddwriaeth yn y Gwaith neu bwnc cysylltiedig
● Cymhwyster Addysg Uwch lefel 4 neu 5

Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at employers@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024
17:30
Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024
17:30
Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch.
Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol IEMA ar gyfer Rheolwyr
short course
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Coed a Phren yn y Gwaith (Coetiroedd a Gwaith Coed Cyffredinol)
diploma
Cadwraeth, Cynaliadwyedd a'r Amgylchedd
City & Guilds Dyfarniad Lefel 3 mewn Rheoli Busnes ar gyfer yr Amgylchedd a'r Sector Tir
award