main logo

Hanfodion E-Fasnach

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18220
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 3 awr
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG
Dyddiad Dechrau
06 Mar 2025
Dyddiad Gorffen
06 Mar 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Neidiwch i fyd deinamig manwerthu ar-lein gyda'n cwrs Hanfodion E-Fasnach! Wedi'i deilwra ar gyfer darpar entrepreneuriaid, perchnogion busnesau bach, a gweithwyr marchnata proffesiynol, mae'r cwrs un sesiwn 3 awr hwn yn cynnig cyflwyniad pwerus i elfennau hanfodol e-fasnach. Byddwch chi’n dysgu popeth o ddewis y platfform cywir ar gyfer eich busnes i reoli cynnyrch, diogelwch taliadau, a strategaethau marchnata ar-lein effeithiol.

Y cwrs hwn yw eich llwybr i ddeall yr ecosystem e-fasnach, gan ddarparu mewnwelediad ymarferol i egwyddorion dylunio gwefannau, gwasanaeth cwsmeriaid, a sut i drosoli offer fel Google Analytics ar gyfer twf busnes. P'un a ydych chi'n bwriadu lansio'ch siop ar-lein gyntaf neu'n anelu at wella'ch gwerthiannau digidol presennol, mae Hanfodion E-Fasnach wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth sylfaenol sydd ei hangen arnoch i lwyddo yn y farchnad ar-lein.

Ar y cwrs hwn, byddwch chi’n dysgu -

● Cyflwyniad i E-Fasnach -
○ Deall yr hanfodion
○ Modelau gwahanol
○ Tueddiadau’r farchnad.
● Dewis Platfform E-Fasnach -
○ Trosolwg o blatfformau fel Shopify, WooCommerce a Squarespace
○ Ffactorau i’w hystyried
● Rheoli Cynnyrch a Dylunio Gwefannau -
○ Rheoli rhestr eiddo
○ Rhestrau cynnyrch
○ Rhyngwyneb defnyddiwr ac egwyddorion dylunio gwe
● Taliad a Diogelwch -
○ Platfformau talu
○ Sicrhau diogelwchtrafodion
○ Deall pwysigrwydd tystysgrifau SSL
● Cludo a Gwasanaeth i Gwsmeriaid -
○ Archwilio opsiynau a strategaethau cludo
○ Datblygu dulliau gwasanaeth i gwsmeriaid
● Hanfodion Marchnata a Dadansoddeg E-Fasnach -
○ Cyflwyniad i SEO a Google Analytics
○ Strategaethau marchnata cyfryngau cymdeithasol ac e-bost
○ Deall ymddygiad cwsmeriaid i lywio penderfyniadau busnes
Mae hon yn sesiwn ryngweithiol gyda thrafodaeth a gweithgareddau ymarferol
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r we
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau angenrheidiol i chi i’ch helpu i ddysgu’r pwnc.
£62.50
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?