main logo

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA14398
Lleoliad
Llaneurgain
Hyd
Rhan Amser, Mae’r cwrs hwn yn 8 diwrnod. Caiff pob sesiwn ei darparu wyneb yn wyneb yn Ysgol Fusnes Llaneurgain o 9.30 tan 4pm.

Bydd angen amser ar yr ymgeiswyr hefyd i weithio ar eu haseiniadau y tu allan i’r sesiynau hyfforddi. Mae angen cwblhau aseiniad ar gyfer pob uned cyn y sesiwn nesaf sydd wedi’i threfnu, felly bydd angen i ymgeiswyr ystyried hyn wrth drefnu eu hamser a chofrestru ar y cwrs.
Adran
Busnes, Arwain a Rheoli
Dyddiad Dechrau
12 Nov 2024
Dyddiad Gorffen
30 May 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Tystysgrif Lefel 3 ILM mewn Arwain a Rheoli, wedi’i brandio gan y Sefydliad Arwain a Rheoli, wedi’i hachredu gan City and Guilds.

Astudir saith uned:
● Uned 341 Arwain a Chymell Tîm
● Uned 300 Datrys Problemau a Gwneud Penderfyniadau
● Uned 312 Deall Rheoli Anghydfod yn y Gweithle
● Uned 307 Rhoi Sesiynau Briffio a Gwneud Cyflwyniadau
● Uned 323 Deall Rheoli Perfformiad
● Uned 311 Datblygu Eich Hun ac Eraill
● Uned 328 Deall Sut i Arwain Cyfarfodydd Effeithiol
Saith aseiniad ysgrifenedig, wedi eu gosod gan ILM. Nid oes arholiadau.
Bydd cymorth ar gael i ymgeiswyr er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cyflawni’r cymhwyster yn llwyddiannus trwy ddefnyddio adnoddau ar Google Classroom a thiwtorialau ychwanegol ar-lein os oes angen.
Rheolwyr rheng flaen profiadol gweithredol, darpar reolwyr rheng flaen neu arweinwyr tîm.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i gefnogi darpar reolwyr atebol cyntaf neu reolwyr atebol cyntaf presennol gyda’u datblygiad proffesiynol wrth arwain a rheoli tîm.

Ar ôl ei gwblhau, efallai y bydd dysgwyr llwyddiannus yn gallu symud ymlaen i Lefel 4 neu 5 ILM mewn Arwain a Rheoli.
£940
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?