main logo

Cyflwyniad i Gyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol

Rhagor o Fanylion
Cod y Cwrs
LA18214
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, 9:00-16:00
Adran
Technolegau Cyfrifiadurol, Cyfrifiadura a TG, Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol
Dyddiad Dechrau
21 Jan 2025
Dyddiad Gorffen
21 Jan 2025

Trosolwg o’r Cwrs

Erbyn hyn mae gan y defnydd o gyfryngau cymdeithasol gyrhaeddiad mor enfawr nes bod marchnata digidol yn ceisio manteisio ar hyn, gan anelu at gysylltu ac ymgysylltu â darpar gwsmeriaid mewn ffordd bersonol trwy ystod o sianeli cyfryngau.

Mae marchnata digidol yn rhan annatod o strategaeth farchnata gyffredinol ac mae’n cynnwys defnyddio cyfryngau digidol a chymdeithasol i gynyddu ymwybyddiaeth a hysbysebu cynnyrch neu wasanaeth.
Bydd y cwrs yn eich cyflwyno i’r cysyniadau sydd ynghlwm â’r broses hon ac yn eich galluogi i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol mewn ffordd ddylanwadol.

Fel rhan o'r cwrs hwn bydd disgwyl i chi greu ac adolygu platfformau marchnata e-bost ac ystod o gyfrifon cyfryngau cymdeithasol i helpu i ddatblygu eich sgiliau, sut i adeiladu proffiliau perthnasol ac ystyried sut a pham y dylid datblygu cynnwys i ddiwallu anghenion gwahanol gynulleidfaoedd.

Cynnwys y Cwrs

● Cynllunio - adolygiad strategaeth Busnes, Marchnata a Chyfryngau Digidol
● Archwilio technolegau/platfformau cyfathrebu digidol
● Datblygu presenoldeb Cyfryngau Cymdeithasol i wella eich cyfleoedd busnes
● Datblygu Cynnwys Digidol - Testun, graffeg a CTA fel rhan o ymgyrchoedd wedi'u targedu
● Datblygu eich gwefan (os yw'n berthnasol) a datblygu eich cysylltedd gwefan i’r cyfryngau cymdeithasol ac oddi arnynt
● Optimeiddio Gwefan (SEO) (os yw'n berthnasol)
● Defnyddio offer AI
Mewn sesiwn ryngweithiol bydd cyfranogwyr yn dod i’r amlwg gyda dealltwriaeth gyfannol o sut y gallwch chi ddefnyddio AI cynhyrchiol i lywio arloesiadau busnes.
Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol, er bod disgwyl i ddefnyddwyr fod yn gyfarwydd â hanfodion defnyddio cyfrifiadur a’r we
Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r dulliau angenrheidiol i chi i’ch helpu i ddysgu’r pwnc.
£99
Pethau defnyddiol i'w lawrlwytho

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Digwyddiadau Agored – Ffordd y Bers
13/11/2024
Mae ein Digwyddiadau Agored yn gyfle perffaith i chi gael gweld y coleg a chael yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i benderfynu ar eich cam nesaf.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llysfasi
28/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Ffordd y Bers
21/11/2024

17:30

Mae pobl niwro-amrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol. Byddwch chi’n gallu dysgu am ein cyrsiau, cyfarfod ein staff cyfeillgar, gweld ein cyfleusterau anhygoel a dysgu am ein cymorth cynhwysiant a dysgu.
Digwyddiad Agored Hygyrch – Llaneurgain
27/11/2024

17:30

Mae pobl niwroamrywiol sydd am astudio yn Cambria yn cael gwahoddiad i’n Digwyddiadau Agored Hygyrch. Dyma gyfle perffaith i archwilio i bopeth sydd gan Cambria i’w gynnig mewn lleoliad sy’n synhwyraidd a chefnogol.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Dilynwch Ni

Dilynwch ni

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?