City & Guilds Tystysgrif Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Parciau, Gerddi a Mannau Gwyrdd)
Rhestr Fer
Trosolwg o’r Cwrs
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi’r dysgwr i ddysgu, meithrin ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth a/neu symud ymlaen mewn gyrfa yn y sector garddwriaeth, gan ddatblygu sgiliau galwedigaethol uchel a gwybodaeth dda am ystod eang o sgiliau garddwriaethol sy’n briodol i gymhwysedd galwedigaethol mewn swyddi penodol, gan gynnwys:
● Gofalwr Tir
● Gweithiwr Parciau neu’r Gwasanaethau Stryd
● Garddwr
● Tirluniwr
Mae’n ddelfrydol ar gyfer dysgwyr sy’n gwneud tasgau arferol yn y gweithle ac fe allent ddefnyddio’r cymhwyster hwn fel cam agosach at lefelau uwch ac at brentisiaethau perthnasol a llwybrau gyrfa.
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol i sefydlu a chynnal sgiliau cyflogaeth fel Iechyd a Diogelwch.
Mae sgiliau galwedigaethol yn y cymhwyster yn cynnwys:-
● Sefydlu planhigion a glaswellt gan hadu a phlannu gan gynnwys clirio safleoedd, paratoi tir ac ôl-ofal.
● Defnyddio a chynnal ystod o offer fel offer di-bŵer ac offer llaw â phŵer, offer â phŵer a reolir â’r traed, naddwyr a/neu beiriannau rhwygo ac offer gyrru â phŵer.
● Cynnal a chadw planhigion a mannau glaswelltog gan gynnwys tocio a thorri, rheoli llystyfiant diangen, adnabod a rheoli plâu, afiechydon ac anhwylderau.
● Adeiladu a chynnal a chadw ystod o nodweddion tirwedd galed fel nodweddion dŵr, ardaloedd palmantog a strwythurau
Mae pob uned yn gofyn i ddysgwyr baratoi ar gyfer tasgau, i ddangos arfer gweithio diogel trwy gydol yr amser ac i weithio i sicrhau bod yr amgylchedd yn cael ei warchod gan leihau difrod a rheoli gwastraff.
Mae pob uned yn cynnwys adran wybodaeth sy’n gofyn i’r dysgwr ddangos dealltwriaeth o’r pwnc tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol i ymgymryd â’r gwaith.
Bydd dysgwyr yn dewis unedau cyfunol i fodloni eu hanghenion dysgu a datblygu. Tystysgrif yw’r cymhwyster hwn, lle bo angen i’r dysgwr gyflawni 21 credyd; daw 3 credyd o’r unedau gorfodol ac o leiaf 18 credyd arall o’r unedau eraill.

Bydd eich asesydd coleg yn ymweld â’ch gweithle, y mae’n rhaid iddo gydymffurfio â gweithio mewn amgylchedd diogel. Bydd asesiadau’n cael eu cynnal i asesu cymhwysedd a gwybodaeth greiddiol. Bydd tystiolaeth o gymhwysedd a gwybodaeth yn cael ei dangos trwy ystod o ddulliau a fydd wedi’u cytuno rhyngoch chi, eich asesydd a’ch cyflogwr.
Mae cymorth ar-lein ar gael drwy amgylchfyd dysgu rhithwir.
Mae dysgu yn digwydd drwy gyfuniad o arsylwadau yn y gweithle, cwestiynu ar lafar ac ysgrifenedig, taflenni gwaith, lluniau, fideos a datganiadau tystion.
Mae credydau o ddysgu blaenorol hefyd yn cael eu hystyried, ond mae’n rhaid iddynt fod wedi’u cwblhau o fewn amser penodol.

Gwahoddir dysgwyr addas 16 oed a hŷn i ymuno unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn. Mae’n hanfodol eich bod yn gweithio yn y maes dysgu hwn ar hyn o bryd, a bod gennych chi gefnogaeth lawn eich cyflogwr.
Byddwn ni’n dadansoddi anghenion hyfforddi pob ymgeisydd yn drwyadl i sicrhau eu bod yn dewis y cwrs a’r lefel cywir.

Mae hwn yn gymhwyster ar ei ben ei hun.
Gall dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen at ddiploma ddefnyddio’r unedau yn y cymhwyster hwn fel credydau tuag at y diploma.
Gellir defnyddio’r cymhwyster fel cam at lefel uwch fel dyfarniad lefel 3, tystysgrif neu ddiploma mewn maes pwnc cysylltiedig i fod mewn safle i gynnwys ychydig o waith rheoli yn y swydd.

Cysylltwch â’n Tîm Ymgysylltu â Chyflogwyr ar 0300 30 30 006 neu anfonwch e-bost at cyflogwyr@cambria.ac.uk i drafod a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol.
Lawrlwythiadau Defnyddiols
Barod i ddechrau ar eich taith?
Ein diwrnodau agored
Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.
Garddwriaeth a Thirlunio
Prentisiaethau mewn Garddwriaeth a Thirlunio
Garddwriaeth a Thirlunio
City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Garddwriaeth Seiliedig ar Waith (Tywarchen Chwaraeon - Groundsman)
diploma

certificate