Cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol IEMA ar gyfer y Gweithlu

Trosolwg o’r Cwrs

Mae’r cwrs Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn berffaith ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn unrhyw swydd yn unrhyw sector, er mwyn sicrhau bod cynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan annatod o holl swyddi cwmnïau.

Mae'r cwrs yn trafod prif risgiau amgylcheddol a chyfleoedd sy'n wynebu sefydliadau; pwysigrwydd effeithlonrwydd adnoddau; effeithiau llygredd, atal, rheoli a deddfwriaeth; effaith trafnidiaeth; a gwybod sut y gall gweithwyr gefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol.

1. Bydd y dysgwr yn deall ac yn gwybod am y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd

2. Bydd y dysgwr yn deall ac yn gwybod am y rhwymedigaethau cydymffurfio a sbardunau busnes ar gyfer newid

3. Bydd y dysgwr yn deall ac yn gwybod am y prif effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chynaliadwyedd

4. Bydd y dysgwr yn deall ac yn gwybod am sut i wella perfformiad amgylcheddol
Mae’r asesiad ar gyfer Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu yn cynnwys prawf amlddewis 20 cwestiwn ar-lein. Mae’r prawf yn cael ei gwblhau trwy borth asesu IEMA a bydd ymgeiswyr yn cael dolen at yr asesiad wrth gofrestru.

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn unrhyw swydd yn unrhyw sector ac nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol. Caiff ei feincnodi yn erbyn disgrifyddion Lefel 2 RQF.

Dylai dysgwyr sy’n dymuno symud ymlaen ar ôl y cwrs hwn ystyried dilyn y cyrsiau canlynol:
• Sgiliau Cynaliadwyedd Amgylcheddol i Reolwyr
• Tystysgrif Sylfaen mewn Rheoli’r Amgylchedd
£188
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?