Dysgu Saesneg yn Iâl

Rhagor o fanylion
Cod y Cwrs
LA91016
Lleoliad
Iâl
Hyd
Rhan Amser, Mae cyrsiau yn cael eu cynnig yn ystod y dydd ac ar rai penwythnosau.

Mae dewisiadau astudio yn amrywio o 3 i 15 awr yr wythnos.

Mae blwyddyn academaidd yn 35 wythnos.

Mae’n bosib cofrestru trwy gydol y flwyddyn er bydd rhai lefelau penodol ddim ar gael yn ddyddiol.
Adran
Dysgu Saesneg
Dyddiad Dechrau
Roll On, Roll Off
Dyddiad gorffen
Roll On, Roll Off

Trosolwg o’r Cwrs

Mae Coleg Cambria yn cynnig cyrsiau Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) ar ein safleoedd Iâl (Wrecsam) a Glannau Dyfrdwy (Sir y Fflint). Mae’r cyrsiau hyn yn datblygu sgiliau iaith graidd - siarad, gwrando, darllen ac ysgrifennu - ar draws wyth lefel, o ddechreuwr llwyr i Lefel 2. Bydd myfyrwyr yn ennill yr hyder i ddefnyddio Saesneg mewn bywyd bob dydd, gwaith ac astudiaethau pellach, gan wella gramadeg, ehangu geirfa a gwella sgiliau cyfathrebu i fod yn llwyddiannus yn y DU.

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys nifer o bynciau ymarferol:

Iechyd
Tai
Addysg
Cyflogaeth a Hyfforddiant
Arian
Teithio
Cymru a’r DU
Hamdden
Prynwriaeth
Rhyngweithiau Cymdeithasol


Cofrestru:
I gofrestru cysylltwch â’n Hadran Gwasanaethau Myfyrwyr i drefnu asesiad cychwynnol. Dewch â’ch dogfennau hunaniaeth i’r asesiad gan fod y rhain yn angenrheidiol ar gyfer cadarnhau eich cymhwystra.
Mae myfyrwyr newydd yn cael eu rhoi ar gyrsiau yn seiliedig ar eu canlyniadau asesiad cychwynnol.

Bydd myfyrwyr sy’n parhau gyda’u hastudiaethau fel arfer yn symud at y lefel nesaf h.y. rhaid cwblhau Mynediad 2 i gael symud ymlaen at Fynediad 3.
Mae asesiadau cychwynnol yn pennu lefel sgiliau priodol myfyrwyr ar gyfer lleoliad. Efallai y bydd myfyrwyr yn cael eu gosod ar lefelau gwahanol ar gyfer sgiliau gwahanol.

Bydd Cynlluniau Dysgu Unigol (CDU) yn cael eu creu gyda thargedau dysgu penodol a chynnydd yn cael ei fonitro’n rheolaidd.

Efallai bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i sefyll arholiadau Sgiliau Bywyd Trinity mewn Darllen, Ysgrifennu ac/neu Siarad a Gwrando, yn dibynnu ar eu cynnydd.
Mae cwblhau’r cyrsiau hyn yn llwyddiannus yn gallu arwain at astudiaethau pellach yn y coleg neu well rhagolygon cyflogaeth.
Mae’r cyrsiau hyn yn cael eu hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag mae meini prawf cymhwystra yn berthnasol.

Felly mae myfyrwyr angen dod ag ID/Fisa gyda nhw a fydd yn cael ei wirio ac efallai bydd costau ynghlwm â hynny.
Lawrlwythiadau Defnyddiols

Barod i ddechrau ar eich taith?

Ein diwrnodau agored

Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle i chi archwilio’r Coleg a darganfod yr ystod o gyrsiau sydd ar gael i chi.

Dim data i'w weld

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Oes gennych chi gwestiwn?

Dyma sut y gallwch gysylltu â ni

Cysylltwch â ni

Anfonwch E-bost atom ni

Cyfeiriad E-bost

Rydych chi wedi ychwanegu’r cwrs hwn yn llwyddiannus at
eich rhestr fer, a ydych yn barod i wneud cais?